Tudalen:Cymru fu.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

dolydd meillionog a'r dyffrynau toreithiog; a'r môr fel arwr buddugoliaethus yn ymorchestu yn ei fuddugoliaeth, trwy anfon ei bysg yn llengoedd i chwilio i mewn i ansawdd ei diriogaeth newydd. Pereiddgan yr eos ddylynwyd gan ysgrech annaturiol y fôr-forwyn; morloi a ymbrancient y weirglodd fras, lle ddoe y chwareuai yr ŵyn nwyfus, a phalas tywysogaidd Gwyddno Garanhir, yn Nghaer Wyddno, a lanwyd â llymriaid a chrancod y môr. Yn mysg y rhai diangol yr oedd Gwyddno, tywysog y Cantref; ac er llawened ydoedd oblegyd ei waredigaeth o afael angau mor ddibris, yr oedd edrych ar ei dywysogaeth brydferth yn orchuddiedig â dinystr yn ofid tost iddo. Y mae diareb ar lafar gwlad tua glanau Beisfôr Aberteifi, a ddefnyddir pan fyddo gŵr mewn cyfyngder diymwared, neu pan gyfarfyddo âg aflwydd a chanddo ddim llaw yn ei ddygiad oddiamgylch, fel hyn; —

"Ochenaid Gwyddno Garanhir
Pan droes y don dros ei dir."

Pa un ai Gwyddno ei hun a gyfansoddodd y ddwy linell hyn, ynte rhywun arall, nis gwyddom, ond yr oedd efe yn fardd, ac yn fardd mewn oes ar Gymru pan fyddai bron cymaint syndod gweled un o blant Ceridwen ag ydyw canfod yn yr oes hon Gymro heb honi rhyw berthynas â'r hen wrach hono. Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yr hwn a gasglwyd tua dechreu y 9fed ganrif, ceir tri dernyn o ffrwyth ei awen, sef, Cân, Foesol, Ymryson Gwyddno a Gwyn ab Nudd, a Chwynfan oherwydd Gorlifìad Gantrêr Gwaelod, Er mwyn cywreinrwydd, yr ydym yn cyfleu y dernyn olaf o'r rhai hyn yn ei hen wisg Gymreig : —

PAN DDAETH Y MOR TROS GANTREF Y GWAELAWD.

GWYDDNEU A'I CANT.

Seithenin saw di allan ag edrych
Uirde varanres mor maes Gwitneu rhytoos

Boed emendigeit y morwin
A hellyngaut gwydi ewyn
Ffynnawn Wenystyr mor terrwyn

Boed emendigeit y vachdeith
Ai golligaut guydi gweith
Ffynnawn Wenestyr mor diffeith

Diaspad mererit yar van kaer
Hyd ar Duw i dodir
Gnawd gwedi trama tranc hir