Tudalen:Cymru fu.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frwydr; rhuthrodd ar ei farch yn mlaen trwy rengau y Cymru, gan ymosod ar Glyndwr ei hun. Bu gornest galed law-law, gledd-yn-nghledd, rhwng y ddau, hydoni tharawodd Owen ef yn ei helm nes ydoedd yn haner marw; yna llusgodd ef oddiar ei farch, a chymerwyd ef yn garcharor. Syrthiodd 1,100 o wyr Mortimer; a ffodd y gweddill. Dywed Holinshed fod y merched Cymreig wedi ymddwyn tuag at laddedigion y frwydr hon mewn dull cywilyddus ac anwar — " fod eu hysgelerder gwarthus y fath na fynai clustiau llednais ei glywed, na thafod gwylaidd ei draethu; nid ellid claddu y cyrph heb dalu arian mawr am ryddid i'w dwyn ymaith." Ond dywed Ricardi, Sais eto, mai Rhys Gyrch, un o ganlynwyr Owen, a gyflawnodd yr anfadwaith. Pa fodd bynag, y mae rhyw wir yn y chwedl; a chan nad pwy oeddynt euog, y menywod Cymreig gafodd y bai; a'r Saeson a wnaethant gyfraith nad oedd i Sais briodi Cymraes, dan boen o golli ei feddianau a'i freintiau gwladol. Deisyfodd amryw bendefigion ar y brenin bwrcasu rhyddid Mortimer; ond yr oedd Harri eiddigus yn llawenhau yn anffodion y Mortimers; ac yn haeru mai trwy ei weithredoedd annheungar ei hun y syrthiodd Syr Edmund i grafangau'r penaeth Cymreig.

Dygodd y buddugoliaeth hon adgyfnerthion i Glyndwr o bob parth o'r Dywysogaeth; a pharodd hyny i'r brenin dyngi llw newydd y mynai lethu ei elynion yn Nghymru. Gwysiodd ei luoedd i'w gyfarfod drachefn yn Lichfield, ar y 27ain o Awst, a rhanodd y lluoedd hyny yn dair adran. Y gyntaf, tan lywyddiaeth y brenin ei hun, i gychwyn o'r Amwythig; yr ail, tan yr larllau Stanhope a Ŵarwick, o Hereford; y trydydd, tan Harri, mab y brenin, o Gaerlleon ar Ddyfrdwy; a gallu y tri llu hyn oedd i ddybenu y rhyfel, ac i wneud y Cymry yn deyrngarol. Y mae bron holl fanylion yr ymosodiad hwn wedi llithro i ebargofiant; nid oes ar gael ond y ffaith mai aflwyddiant truenus oedd; y pedwerydd ymosodiad fel y lleill. Nid oedd rhyfelgyrch' anffortunus Napoleon i Rwsia nemawr mwy aflwyddianus na'r rhyfelawd hwn. Yr oedd Owen yn faeslywydd rhy gall i anturio ei fyddin fechan yn erbyn 70.000 lluoedd y brenin; o ganlyniad, enciliodd i'r mynyddoedd, gan yru o'i flaen yr holl ychain a'r defaid a phob defnydd porthiant. Heblaw hyn, yr oedd yr hin yn ystormus ddychrynllyd, a'r elfenau fel pe buasent meŵn cyngrair gydâ Glyndwr. Wrth wylio a cheisio gelyn cyfrwys, dialgar, a sydyn ei ysgogiadau, yn y curwlaw a'r cenllysg didrugaredd, darfu i ludded, newyn, ac afiechyd, deneuo'n fuan rengau byddin