Tudalen:Cymru fu.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrol tua'r flwyddyn hon. Yr oedd haul ei Iwyddiant wedi cyrhaedd ei awr anterth, a chymylau boldduon a ddechreuent ymgasglu ar ddysgleirdeb ei ffurfafen.

Y mae ffawd yn awr yn dechreu gwgu arno. Ar yr 11eg o Fawrth, yr oedd gyda wyth mil o'i ddilynwyr yn Morganwg, ac yn llosgi ac yn anrheithio y wlad o'i amgylch, pryd yr ataliwyd ef yn ei alanasdra gan Syr Risiart Talbot,' yr hwn gyda dyrnaid o wyr a ymosododd arnynt, ac au gorfododd i ffoi yn annhrefnus a gadael agos i fil o'u nifer yn gelaneddau meirwon o'u holau. Dy wedir fod ymddygiad y Cymry yn yr ysgarmes hon yn hollol annheilwng o ddewrder eu cyndadau; ymollyngasant yn llwfr a diegni o flaen eu gelynion.

Gyda'r amcan o ddileu gwarth y gorchfygiad hwn, Owen a ddanfones un o'i feibion ar ol y Saeson, a chymerodd ymladdfa arall le ar y 15fed o'r un mis, ar Fynydd y Pwll Melyn, yn sir Frycheiniog; ond trodd hono drachefn yn' aflwyddiant, a phumtheg cant o'r Cymry naill ai a laddwyd neu a gymerwyd yn garcharorion. Yn mhlith yr olaf, yr oedd eu llywydd; ac yn mhlith y blaenaf yr oedd Tudur brawd Owen, yr hwn oedd mor debyg iddo yn ei bryd nes y taenwyd y chwedl mai efe ydoedd; ond wrth chwilio y corph, cafwyd ei fod yn ddiffygiol o'r ddafaden uwchben y llygad a hynodai Glyndwr.

Yr anffodion hyn a barasant i holl wyr Morganwg ymostwng i'r brenin, oddieithr ychydig gyfeillion selog i Owen, y rhai a ffoisant i Wynedd. Nid oedd ganddo yntau nac arian nac ysbryd i gadw ei wyr yn nghyd; o ganlyniad, gadawsant ef a dychwelasant i'w cartrefleoedd. Mewn byr amser, dirywiodd ei achos i'r fath raddau onid oedd Glyndwr gadarn, falch, gyfoethog, yn ddim amgen na ffoadur trallodus yn gwibio oddiwrth y naill gyfaill at y llall, gan ymlechu mewn manau dirgel ac anghyfanedd. Cadernid yn ffoadur! Cyfoeth yn ymddihynu ar gyfeillion! Balchder yn mynychu ogofeydd— palasau y wâdd a'r ystlumod — er mwyn cael man dyogel i roddi ei ben i lawr ar eu lloriau Ileithion! Y mae ogof yn min y môr yn mhlwyf Llangelynin, Meirion, a adwaenir y dydd hwu wrth yr enw "Ogof Owen," Ile y bu ef yn ymguddio am un yspaid o amser, ac y danfonid ymborth iddo gan foneddwr o'r enw Ednyfed ab Aaron. Yn y cyfwng hwn, y cyfansoddodd Iolo Goch ei "Gywydd i Owen Glyndwr wedi ei fyned ar ddifancoll," oddiwrth pa un y gellir casglu na wyddai hyd yn nod ei gyfeillion mwyaf mynwesol pa le yr oedd ei ymguddfan. Geilw y bardd doniol arno yn