Diaspad mererit y ar van kaer
Hetiu hyt ar Duv y dadoluch
Gnawd gwedi traha attregwch
Diaspad mererit am gorchwyt heno
Ac nim haut gorluyt
Gnawd gwedi traha tramcwyt
Diaspad mererit y ar gwineu
Kadir Kedaul Duw ae goreu
Gnawd gwedi gwedi gormod eisseu
Diaspad mererit ain kymhell
Heno wrth vy ystavell
Gnawd gwedi traha tranc pell
Bet seithenin synwyr van
Rhwng kaer kenedyr a glan
Mor, maurhydic a kinran
"Seithenyn, saf allan, a gwel drigfanau cewri; — dyffrymdir
Gwyddno a orchuddiwyd gan y môr. Boed melldlgedig
y gwrthglawdd, a ollyngodd wedi gwin, ffynonau
y dyfnder mawr. Boed melldigedig geidwad y llifddor, a
ollyngodd i fewn yn y nos ffynonau yr eigion diffaeth.
Llef Mererit [enw a roddid ar y gwynt gorllewinol] oddiar
uchelfan y Gaer, gwrandawed Duw arni, 'Gwedi gwynfyd
y daw drygfyd.' Llef Mererit oddiar uchelfan y Gaer,
atolygir heddyw ar Dduw, 'Y mae diwedd ar drawsedd.'
Llef Mererit a'm gorfydd heno, rhy amlwg yw yn fy
nglyw, 'Gwedi trawsedd daw tramgwydd.' Llef Mererit
oddiar adfeilion y gwinwydd, 'Gwedi gwastraff daw
eisieu.' Llef Mererit a'm cymhell, heno wrth fy ystafell,
'falchder y daw dinystr diarbed.' Boed Seithenyn wau
synwyr rhwng Caer Cenedir a'r lan, pan fyddo'r môr
gythryblus a chynddeiriog."
Y mae un o feirdd godidocaf yr oes hon wedi rhoddi y geiriau canlynol yn ngenau Gwyddno Garanhir, a diameu eu bod cystal dysgrifiad o adfyd y tywysog ar y pryd a'r geiriau blaenorol o'i gyfansoddiad ef ei hunan : —
"O, DDYLIF! O, ddialedd!
Mae'n flin bod ar fin dy fedd.
Tywod sy'n llenwi'n teiau,
A'r pysg yn gymysg sy'n gwau :
Morfeirch dihefeirch, hyfion,
Llymriaid, arw haid, 'r awrhon
Sy'n heigiau'n amlhau y'mhlith
Y gweunydd fu'n dwyn gwenith;
Lle porai defaid dofion
Yn y lle pranciai wyn llon,