Tudalen:Cymru fu.djvu/161

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffoisant ato am noddfa yn amser adfyd Owen. Y brenin yn dra buan a ostyngodd y gwrthryfel hwn, cymerodd feddiant ar gastellydd yr Iarll, a gorfododd ef i ffoi i Scotland, a chydag ef yr oeddynt esgobion Bangor a Llanelwy; llawer o'i ddilynwyr a ddienyddiwyd, ac yn eu plith un Syr John Gruffydd, marchog Cymreig. Yna gan ddychwelyd o'r Gogledd efe a ymdeithiodd i Gymru y pumed waith gyda 37,000 o wyr, a diamheu mai cyfarfod y Ffrancod ac nid y Cymry gwasgaredig oedd amcan y fyddin alluog hon. Eithr eto fyth, gorfodwyd y brenin i ddychwelyd, wedi cael curfa ddidrugaredd gan y gwynt a'r dryghin.

Erbyn hyn yr oedd y ddwyblaid yn deall eu gilydd, ac yn cil-lygadu ar Worcester, fel dau gi ar asgwrn y gynen. Danfonodd y brenin wyr allan yn galwar raglawiad amryw siroedd i godi milwyr, a phenderfynai wneud byr waith ar ei wrthwynebwyr. Arglwydd Berkley a Henry Pay, y llyngeswyr Seisnig, a losgasant bumtheg o longau Ffrengig tra wrth angor yn Aberdaugleddyf, a chymerasant bedair ar ddeg eraill ar y môr agored, yn llwythog o fwydydd a darpariadau i'r fyddin. Ar y 7fed o Awst, cawn y brenin wedi gadael Worcester, yn aros yn Hereford, ac yn bwriadu arwain y fyddin ei hun yn erbyn y gelynion. Pan ddeallodd Huguevile fod y brenin yn agoshau, ymgiliodd yn sydyn i ben bryn uchel tua naw milldir o Worcester, nes yr oedd glyn dwfn rhyngddo â'r fyddin frenhinol. Buont am tuag wyth niwrnod fel hyn yn ymdderu a'u gilydd. Ond byddai glewion y ddwy fyddin yn cyfarfod yn fynych ar lawr y glyn, a gornestu law-law yn cymeryd lle rhyngddynt, y rhai yn aml a derfynent yn angau. Collwyd o wyr trwyddynt tua dau cant o bob tu; a'r Ffrancod a gollasant amryw swyddogion, yn eu plith Arglwydd Mouci, brawd eu llyngesydd,

Tybir mai ar Woodbury Hill, yn mhlwyf Whitley, naw milldir i'r gogledd-orllewinol o Worcester, yr oedd gwersyll Owen. Amgylchid y lle gan ffos ddofn: ac yr oedd yn dra chyfleus, gan y gellid ymgilio o hono i Gymru os byddai hyny yn ofynol. ond bu Harri yn ddigon call i allu atal adgyfnerthion oddiwrth ei elynion, ac oherwydd hyn y gorfodwyd hwynt i euciilo yn y nos tua Chymru. Dywed Hall " i'r brenin eu hymlid o fryn i bant, o bant i goedwig, goedwig i gors, a methu yn lân deg a dyfod o hyd iddynt. Yr oedd yn bleser gweled ei wyr yn teithio, ei wibiadau prys ni - a phoeuns, ei arosiadau helbulus ac ansicr, ei grwydriadau parhaus, ar hyd glynau disathr a