Howel Goch; ac ar y sêl wrth. y maddeuant hwnw, yr oedd llun Owen yn eistedd mewn cadair, ac yn dal teyrnwialen yn un llaw a chronen (globe) yn y llall; — ac yn ddigon cadarn hefyd i noddi y ffoedigion Seisnig larll Northumberland ac Arglwydd Bardolph, wedi i'r Scotiaid, oddiwrth, pa rai y ffoisent i Gymru, fwriadu eu rhoddi yn nwylaw eu gelynion, yn gyfnewid am garcharorion. Oddi wrth ymddygiad Senedd Lloegr hefyd gellir casglu fod ei ofn yn parhau arnynt. Deddfasant nad oedd i diroedd nag eiddo y gwrthryfelwyr gael eu rhoddi ymaith hyd yn mhen tri mis ar ol eu hatafaelu, er mwyn iddynt hwy gael amser i chwilio i gyfiawnder yr atafaeliad.
Yn Mon, yr oedd pleidwyr Owen yn gryfion a lluosog, er nad ymddengys i frwydr gymeryd lle yno o gwbl. Diamheu fod llawer o'r Monwysion yn myddin Grlyndwr, a phan ddechreuodd ei achos ddirywio, iddynt ddychwelyd yn ol i'w cartrefleoedd. Ond y brenin a glybu eu hanes, a chan fod Mon bellach tan ei awdurdod, penderfynodd ar gosbi y bobl hyn. Ar yr 11eg o Dachwedd, cynaliwyd brawdlys yn nhref Biwmaris, gerbron Tomas Twkhwl, Philip de Mainwaring, a Robert Paris, ieuangaf, i euog- brofi y sawl a gymerasant ran yn y gwrthryfel. Dengys yr ystadegaeth ganlynol fod y ddyfais freiniol wedi ateb ei dyben yn dda. Rhenid y wlad yn yr hen amser i gwmwdau, a dyma gwmwdau Mon, nifer y rhai a ddirwywyd ynddynt, ac i ba swm: —
Cwmwd | Nifer o bersonau | £ | S | C |
Llifon | 414 | 100 | 18 | 8 |
Menai | 308 | 65 | 10 | 8 |
Talebolion | 399 | 123 | 16 | 4 |
Twrcelyn | 279 | 83 | 5 | 8 |
Malltraeth | 326 | 83 | 16 | 0 |
Tindaethwy | 389 | 79 | 19 | 8 |
CYFANSWM | 2212 | 537 | 7 | 0 |
Y ddirwy uchaf o'r rhai hyn oedd £8 3s. 4c., a'r leiaf 2s. Dirwywyd dau offeiriad i'r swm o £5 yr un oherwydd iddynt "gamarwain" eu dëadelloedd. lluaws a gyhoeddwyd yn amddifad o nawdd cyfraith, ac eiddo'r lladdedigion yn y rhyfel a fforffedwyd i'r brenin yn ol y gwerth canlynol:— Ceffyl, 2s.; caseg, 1s. 4c.; buwch, 1s. 8c.; aner,' 1s.; dafad (blwyddiad), 4c. Dyua eu prisiau y pryd hwnw; ac yr oedd pob da amaethyddol yr un mor radlon, yr hyn a brawf dylodi yr amseroedd hyny.