Cynulla morgwn hyllion
A mor-gathod — syndod son!
E geir lle bu yd a gwin
Fawr grugiau o for gregin.
Hoff lysoedd a phalasau,
Gan nerth y mor certh, mawr, can,
Eu cydiawl furiau cedyrn
Ddatodid, chwelid'yn chwym :
Ni ddorid eu gwedd eirioes,
Tan eu traed tonau a'u troes;
A'u holl stor, y mor mawrwanc,
A fwria'i wyllt far ei wanc.
O! fy ngwlad, rhaid im' d'adu
Dan y dwr a'i donau du.
Llwybrau rodiwn, garwn gynt,
I'm mawr dristwch mor drostynt
A lifeiria lafoerion
Oerion dig ei erwin don.
O! hen eigion creulon, cred,
Y gelyn calon galed —
Ni bu un a'i raib yn bod
Debyg mor ddigydwybod
A thydi, weilgi mawr wanc,
Didoraeth yw dy daerwanc;
Llyncu'r byd i gyd ar gais
I dy fol mewn du falais
Wnait unwaith, ar hynt anwar,
Hyn ni fu ddigon o far —
Llyncu mad wlad fy nhadau
Wnait i'th grombil, gawrfil gau;
Daw arnat dal diwymi, —
Dial tan — y fo dal i ti !"
Y mae cryn lawer o amrywiaeth barn yn mysg haneswyr mewn perthynas i'r trychineb anaele hwn, Dywed rhai mai traddodiad gwag a disail ydyw y cyfan. o'r un natur a lluaws o'r ffugchwedlau rhamantus 'Cymreig hyny a elwir Mabinogion; ereill a ystyriant yr hanes yn gymysgfa o ffugiaeth {mythology) a Derwyddiaeth; a'r trydydd dosbarth a gredant fod y Trioedd a'r traddodiadau yn ei gylch yn seiliedig ar ffeithiau diymwad. Y dosbarth cyntaf a seiliant eu barn ar yr ymresymiadau hyn: — Fod y Trioedd a soniant am dano yn gloff ac ansicr; fod arwynebedd y fan yn bresenol yn. ymresyniad nerthol na chymerodd erioed le y fath beth a gorlifiad, — paham nad