Tudalen:Cymru fu.djvu/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Math ab Mathonwy. Pan aethant yno, cawsant fod y wlad yn derfysg drwyddi. "Pa newydd sydd yma?" ebai Gwydion. Ebynt hwythau, "Pryderi sydd yn casglu un cantref ar hugain i'th ymlid di. Rhyfedd mor araf y cerddasoch. Pa le y mae yr anifeiliaid yr aethoch i'w hymofyn?" " Gwnaethom gren iddynt yn y cantref islaw," ebai Gwydion.

Ar hyny, Math a'i wyr a glywent sain udgyrn a dygyfor mawr yn y wlad, a gwisgasant amdanynt, ac aethant hyd y Penardd, yn Arfon. A'r noson hono, Gwydion ab Don, a Gilfaethwy ei frawd, a ddychwelasant yn llechwraidd i Gaer Dathyl; a chymerth Gilfaethwy feddiant ar ystafell Math, gan orfodi Goewin i aros a throi y morwynion eraill allan.

Ar lasiad y dydd dranoeth, dychwelasant i'r fan yr oedd Math a'i lu. Pan gyrhaeddasant, yr oedd y gwyr hyny yn ymgynghori pa du yr arhonynt Pryderi a gwyr y Dehau, ac i'r cynghor yr aethant hwythau. Yn y cynghor, penderfynwyd aros yn nghadernid Arfon, ac yn nghanol dwy Faenor yr arosasant, sef Maenor Penardd a Maenor Coed Alun. Yno ymosododd Pryderi arnynt, ac y bu brwydro caled; a lladdwyd yno laddfa fawr o bob ochr. ond bu raid i wyr y Deheu encilio. Enciliasant i le a elwir eto Nant coll; ymlidiwyd hwynt, ac yno y bu aerfa ddifesur ei maint. Enciliasant oddiyno hyd y lle a elwir Dolbenmaen, ac yno ceisio heddwch a wnaethant.

Er mwyn cael heddwch, rhoddodd Pryderi wystlon, sef Gwrgi Gwastra a thri ar hugain o foneddigion eraill. Yna Pryderi a'i wyr a deithiasant mewn heddwch hyd y Traeth Mawr; ond fel yr elent tua Melenryd, nis gellid atal gwyr y wlad rhag saethu arnynt. Pryderi a ddanfonodd genhadau atMath yn deisyf arno luddias y saethu; â gadael rhyngddo ef a Gwydion ab Don, canys efe a barasai hyn oll. Daeth y genad at Math; "le," ebai ef "os da gan Wydion ab Don, mi a'i gadawaf yn llawen; ni chymellaf fi ar neb i ymladd." " Diau," ebai'r cenhadau, "Pryderi a ddywed mai tecach i'r hwn a wnaeth gymaint o gam ag ef ddyfod i ymladdfa law-law ei hunan, a gadael ei luoedd yn segur." Ebai Math, "Myn y nefodd, nid archaf fi i wyr Gwynedd ymladd troswyf; os caf ymladd law-law gyda Pryderi, rhwydd y gwnaf hyny." Dygasant yr ateb hwn at eu harglwydd, "Diau," ebai yntau, "nid archaf finau neb i hawlio fy iawn ond fy hunan."

Y ddau a gyfarfuant mewn arfwisgoedd, ac a ymladdasant; a thrwy nerth cadernid a llidiowgrwydd Math, a