Tudalen:Cymru fu.djvu/172

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffenestr Math, a chyda'r twrf, cŵn y llys yn cyfarth. "Edrych," ebai ef wrth un o'r gweision, "pa beth sydd yna oddi allan." "Arglwydd, mi a edrychais, y mae yna garw ac ewig, ac elein (fawn) yn eu canlyn."Ar hyny, Math a gyfodes ac a aeth allan, ac ef a ganfu y tri anifail. Yna dyrchafodd ei swynlath, " Yr hwn oedd ewig y llyuedd, bydded faedd coed eleni; a'r hwn oedd garw y llynedd, bydded garnen goed [a wild sow] eleni;" a tharawodd hwynt â'i swynlath. "Yr ieuanc hwn a gymeraf fi i'w feithrin, a pharaf ei fedyddiaw;" a'r enw a roddwyd arno oedd Hydwn. " Ewch chwithau, a byddwch faedd a garnen goed, ac anian moch fyddo arnoch, a blwyddyn i heddyw byddwch yma tan y pared a'ch etifedd gyda chwi."

Yn mhen blwyddyn, clywid cyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell, a'r llys a ymgynhyrfodd. Yna Math a aeth allan, a gwelai y tri bwystfil. A'r bwystfilod a welodd oeddynt faedd coed a charnen coed, a llwdn da yn eu dilyn. A mawr ydoedd o'i oed. "Yn wir," ebai Math, " paraf fedyddio hwn." Ac efe a'i tarawodd ef gyda'i swynlath, onid aeth yn llanc teg, gwallt-wineu (auburn), a galwyd ef Hychdwn. " A chwithau, yr un ohonoch oedd faedd coed y llynedd, bydded fleiddast eleni; a'r hwn oedd, garnen y llynedd, bydded flaidd eleni; a byddwch o anian gyffelyb i'r anifeiliaid yr ydych ar eu ffurf, a dychwelwch yma yn mhen y flwyddyn."

Ac yn mhen y flwyddyn, efe a glywai gynhwrf a chyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell. Ac wedi iddo gyfodi a myned allan, canfu flaidd a bleiddast, a chenaw cryf yn eu canlyn. "Hwn a gymeraf fi," ebai ef, "a .pharaf ei fedyddiaw; ac y mae'r enw yn barod, sef yw hwnw, Bleiddwn: —

Tri meib Gilfaethwy enwir,
Tri o ryfelwyr cywir,
Sef Bleiddwn, Hydwn, a Hychdwn hir

Yna efe a'u tarawodd gyda'i swynlath, onid oeddynt yn eu cnawd eu hunain. "Ha! wyr," ebai ef, "os gwnaethoch gam â mi, digon o boen a chywilydd mawr a gawsoch. Darperwch yn awr," ebai ef wrth ei weision, "enaint gwerthfawr i'r gwyr hyn, a golchwch eu penau ac adgyweiriwch hwynt." A gwnaed hyny.

Wedi Iddynt ymdrwsio, daethant at Math. "Ha! wyr," ebai ef, "gan i chwi gael fy heddwch, chwi a gewch hefyd fy nghyfeillgarwch. Rhoddwch im' gynghor pa forwyn a geisiaf." "Arglwydd," ebai Gwydion ab Don,