Tudalen:Cymru fu.djvu/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ymroddasant i gasglu aur ac arian, onid oedd gyfoethocach y tlotaf o'r saith na'r brenin ei hun, o dda parod; a gwuaethant hyny trwy gydgynghor, fel y gallent hwy ladd y brenin o nerth a chadernid eu da. A'r brenin a welai trwy ei hun, bair a saith droed odditano, a mygdarth mawr yn codi oddiwrth y pair; a hwnw a ddeuai yn nghylch ei lygaid i'w ddallu. Yna y danfones y brenin i bob lle i geisio deongl i'w freuddwydion, a'r gweledigaethau a ddelynt iddo rhagllaw. A'r cenadau ar ddamwain a ddaethant at was ifanc oedd yn rhagori ar bawb mewn hysbysrwydd o ddewiniaeth a deongli breuddwydion. A'r gwas ifanc a ddaeth ger bron y brenin, ac yntau a adroddes ei freuddwydion wrtho. 'Ie,' ebai'r gwas, 'deongli'r breuddwyd a fedraf, a'th gynghori a wnaf; ac o byddi di wrth gynghor, ti a fyddi well; ac oni fyddi, ti a fyddi gwaeth. Y pair a welaist ti, a arwyddocâ ddinas; y saith troed a welaist, ydynt saith o wyr sydd â gormod o gyfoeth, ac yn darparu dy fradychu onis lleddir hwy yn ebrwydd.' Oni ni fynai'rbrenin fod wrth gynghor y gwas, nes iddynt ei ladd ef yn nghyntaf, a dwyn y frenhiniaeth oddiarno. "

"Ac felly, ni byddi dithau wrth gynghor am dy fab a Doethion Rhufain, y rhai sydd i'th fradychu di; a'r rhai, oni leddir hwynt yn ebrwydd, a ddygant dy deyrnas oddi arnat." "Dyma fy nghred y lleddir hwynt yforu." A thranoeth, trwy lid mawr, efe a gyrchodd i'r dadleudy, ac a barodd grogi ei fab a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes Iesse, i fyny, a dywedyd fel hyn: " Ni ddylai arglwydd fod mor anwadal a gado ei droi drwy ffalsedd a chelwydd, a thwyll; ac fel y siomes y frenines gynt y brenin am y marchog, felly y sioma dy wraig dithau dydi." "Pa fodd y bu hyny?" ebai yntau."Yn wir, nis mynegaf i ti, oni ro'i di dy gred ar gadw y mab yn fyw heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai ef.

"Yr oedd gynt farchog cadarn yn y Dwyrain; ac efe a welai beunydd trwy ei hun ei fod yn ymgaru ag arglwyddes wych, na welsai erioed olwg arni ond trwy ei hun; ac efe a guriodd yn fawr o gariad at yr unbenes. A chafodd gynghor i fyned a rhodio gwledydd pell, a edrych a gaffai ei gweled yn un lle oddieithr trwy ei hun. Ac un diwrnod, fel yr oedd efe yn marchogaeth ar brif-ffordd fawr mewn gwlad ddyeithr, efe a welai gaer fawr, a chastell teg yn ei hymyl, a thŵr teg ar ben y castell, tebyg i'r tŵr a welsai ef trwy ei hûn, ac hefyd yr arglwyddes fwyaf a garasai erioed. Ac i'r ddinas yr aeth efe y nos hono, a dy wedwyd