Tudalen:Cymru fu.djvu/212

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dywedyd mai myned i nol cyllell yr oedd i gerfio y bwyd gerbron y boneddigion. Yna y rhoed lliain newydd ar y bwrdd, a dechreu y gwasanaeth o newydd. A bore dranoeth, y gŵr a ymliwiodd â hi am y tair gweithred hyny; a dywedodd hithau mai amlder o ddrygwaed oedd ynddi oedd yn peri iddi wneuthur hyny, ac mai nid o'i hanfodd y gwnaeth. Yna y gŵr a beris gyneu tanllwyth mawr o dân, ac a beris iddi dwymo ei breichiau wrth y tân yn dda, a'u rhwbio yn ffest; ac ef a beris ollwng gwaed o'i dwy fraich, a'i adael i redeg hyd oni fyddai hi yn ffentio wrth y tân, ac heb allu dywedyd dim; ac yna ef a beris ystopio y gwaed, a'i rhoi hi yn y gwely yn esmwyth. Yna hi a ddanfones at ei mam gan ddywedyd ddarfodi'r gwr ei lladd hi. A'i mam a ddaeth ati, ac a ddywed wrthi, ' Oni ddywedais iti nad creulonach digofaint neb na gŵr hen.' Ac yna y gofynodd ei mam iddi: ' A wyt ti yn caru y gŵr ifanc eto?" Na charaf fi un gŵr byth mwy.'"

"Ac felly gochel dithau, arglwydd ymherawdwr, rhag credu dy wraig yn gymaint a pheri rhoi dy fab i angau o'i 'hachos i; a bid hysbys y llefara dy fab di yforu."Ni chredaf hyny nes y gwelwyf," ebai'r ymherawdwr. A'r nos hono y mynegodd efe i'r ymherodres y llefarai y mab dranoeth. Yna cywilyddio yn fawr a wnaeth hi, yn gymaint ,ag na fedrodd hi ddychymygu dim o hyny allan. A thranoeth, ar godiad haul, y daeth yr ymherawdwr a'i holl wasanaethwyr i'r eglwys; ac wedi'r offeren, y daeth efe i eistedd ar hen taren uchel o dir oddiar y fynwent.

Yna y daeth y mab gerbron ei dad, rhwng dau o'r Doethion, a chyfarch gwell i'w dad, ac erchi ei fendith, o achosa na baeddasai ef ei fâr erioed, gan ddywedyd: "Fy .arglwydd dad, Goruchaf Dduw, y Gŵr a ŵyr bob peth, a ddangoses yn amlwg i'm hathrawon a minau trwy arwydd y lleuad a'r seren oleu yn eu hymyl, o dywedwn i un gair o fewn y saith diwrnod diwaethaf, na ddiangwn i rhag angau cywilyddus; ac am hyny y peidiais i a llefaru. A'r ymherodres a fu i'm cyhuddo i yn ffest wrthyt ti, a mi heb ei baeddu, o achos na ddywedais i ddrwg wrthi na'i gwneuthur, a'i bod hi megys gelynes i mi. Eithr tebyg yw rhyngddi hi â mi ag y bu gynt rhwng marchog a'i fab ar y môr. "Beth oedd hynny" ebai'r ymherawdwr.

"Marchog a'i fab oeddynt mewn ysgraff ar y môr; a dwy frân a ddaethaut a gregan uwch eu penau, a disgyn ar gŵr yr ysgraff. A rhyfedd fu gan y marchog hyny, a gofyn i'w fab: 'Yr wyt yn ysgolhaig da, a wyddost ti beth y mae'r brain yn ei regan arnom ni?' A'r mab a