Tudalen:Cymru fu.djvu/229

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallai at "gwraig hysbys," oedd yn byw mewn bwthyn bychan diaddurn yn uchel, uchel ar un o lechweddau yr Eifl — yn mhell uwchlaw rhodfeydd cyffredin dynion, yn myd y cymylau, y grug, a'r cigfranod. Dynes brudd hagr oedd hi, a'i hymddygiadau haner gwallgof, a'i dull neillduedig o fyw, yn peri i werin y parthau hyny gredu ei bod yn gwybod y dirgelion oll trwy ei chyfathrach â'r Un Drwg. Gerbron y feudwyes hon y daeth yr eneth ieuanc o Nant Gwrtheyrn; ac yr oedd ei hatebion, fel yr eiddo oraclau eraill o ran hyny, yn llawn o eiriau dau-ystyr neu diystyr. "A geir hi?" "Ceir." "Pwy ceiff hi? ac yn mha 'le, ac yn mha fodd!" Ysgydwodd y Ddewines ei phen. "A geiff y priodfab ei anwylyd?" "Ceiff." "Yn y nef neu ar y ddaear?" "Ar y ddaear." Diolch i Dduw," ebai'r chwaer ofergoelus, gan droi gwyn ei llygaid i fynu, plethu ei dwylaw ynnghyd, ac wylo o lawenydd." Ond pa bryd? O, pa bryd?" "Daw goleu o'r Nef, ag a'i dengys. Ni chwiliwch ychwaneg am dani; y Nef a'i dengys hi iddo ef — hwy a safant wyneb yn wyneb yn y goleuni nefol." "Pa hydy bydd hi oddiwrthym?" "Nid ydyw oddi wrthych." Ni fynai'r ddewines ddweydd im yn mhellach na hyn; a dychwelodd y forwyn ieuanc adref. Adroddodd wrth ei chwaer yr hanes, a'r geiriau a glywsai, ac wedi i'r ddwy eu pwyso yn nghlorianau pwyll,nis gallent wneud na choryn na sawdl ohonynt ac o ganlyniad, penderfynasant gadw y peth yn ddirgelwch, a gadael i amser eu hesbonio, os oedd esbonio arnynt hefyd.

Ond parhau yn llesmeiriol yr oedd Rhys, a'i lygaid fel ser safadwy yn ei ben; ni chymerai sylw o neb, a chauai ei ddwrn pan gynygid siarad âg ef. Ni ddarfu gymaint a gofyn beth oedd ffrwyth yr ymofyniad â'r ddewines, fel pe na fynasai ladd yr ychydig obaith oedd yn llechu eto yn ei fynwes. Yr oedd yn anmhosibl i'r edrychydd mwyaf disylw beidio canfod ynddo ar rai amserau ragarwyddion sicr o wallgofrwydd; canys yr oedd ei ymenydd yn prysur doddi tan ddylanwad gwres ei drallod a'i bryder. Bu yn y sefyllfa Yna am ddiwrnod a noswaith, weithiau'n waeth ac weithiau'n well, ond el waeth yn mynd yn hirach a'i well yn fyrach; a phan oedd cysgodau yr ail ddydd yn ymestyn, neidiodd i fynu, gwisgodd ei briodaswig am dano, ymaflodd yn mraich ei chwaer achydag egni ofnadwy ebychodd y gofyniad, "Gafwyd hi eto?" Ni fedrai'r eneth wirion rwygo ei galon drachefn gydag ateb nacaol; ac ni feiddiai ychwaith ei dwyllo â chelwydd; edrychodd edrychiad caruaidd i'w wyneb, a throdd ei phen draw i