Tudalen:Cymru fu.djvu/234

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn galed na chawn hyn. Gweddiais am sicrwydd, hyd yn nod pe byddai ond sicrwydd anobaith; byddai hyny yn well na'r ellylldân hwn o obaith sydd yn peri i'm meddwl cythryblus grwydro hyd geulanau marwolaeth a chorsydd trueni. Na, yr ystorm i mi! a dichon y teifl rhyw fellteu oleuni ar ei thynged; ac yna byddaf farw yn dawel." A rhwygodd ei hun o'r gyfeillach hon, a fwrdd ag ef ar garlam tua'r ceubren. Ni buasai yn waeth i chwi geisio atal y ciconia (stork) rhag ufuddhau i'w reddf symudol anorchfygol na cheisio atal Rhys rhag myned i'r lle hwnw ar ystorm.

Ac, yn nhyb ei chwiorydd, nid oedd modd iddo ddewis lle mwy peryglus ar daranau na'r llecyn hwnw; gan fod yr hen bren wedi ei daro deirgwaith gan fellt yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Safai yn min y môr, ar glogwyn uchel, ac yr oedd yn nod amlwg i'r elfen ddinystriol. Gan hyny, prysurodd ei chwaer ar ei ol, ar y bwriad o'i berswadio i ddychwelyd adref; neu o leiaf, ei gael o ddanedd y perygl. Wedi iddi gyrhaedd ato, cafodd ef yn eistedd yn hollol ddigyffro, tra yr oedd natur fel pe buasai mewn gwewyr, a'i gwyneb yn ddu fel canol nos. Pan rwygodd y fellten gyntaf fol y cwmwl tywyll, efe a chwarddodd; a phan afaelodd hi yn. ei law i'w anog i ddyfod ymaith, taflodd edrychiad caruaidd ddiolchgar arni, fel pe buasai yn dymuno cydnabod ei gofal dyfal ar ei ran, a chusanodd ei llaw, gan ddywedyd, "Gwyneth anwyl! Eithr pan erfyniodd hi arno mewn iaith ymbilgar arno dd'od i ochel rhag y dymhestl, "Na, Gwyneth bach," meddai," yr wyt yn meddwl fod hyn yn effeithio arnaf fi fel arnat ti? — dim o'r fath beth. Dos adre, eneth anwyl, gad rhyngwyf fi â'r storm; canys heddwch ydyw dryghin i mi, gan ei fod am yr amser yn boddi sŵn y storm sydd yma (gan gyfeirio at ei fynwes); y mae wedi bod y fath storm ddibaid yma, y fath daranfolltau yn rhuo, rhuo yma, fel O! achubwch, arbedwch fi byth rhag edrych eto ar yr awyr las, a daear feillionog! Ystorm i mi." Yna dyna fflachiad. "Rhed, eneth, rhed! Ymae'n beryglus. "

"A thithau hefyd. Yn wir, ni'th adawaf." Dyna fflam ddwyfol arall! dyna ebychiad arall digon nerthol i ddeffro meirw," ebai Rhys, gan adfeddianu ei ddifrawder arferol, "ond taranau a mellt egwein ein byd ni ydyw y rhai hyn; beth am y dydd hwnw pan y byddo natur yn ymddryllio, a'r greadigaeth ar dâu gan fellt; ac y gwelir ni oll wyneb yn wyneb. Tydi, yr Hwn a wyddost bob peth, gwrando ebychiad calonrwygol adyn truenus o