Tudalen:Cymru fu.djvu/252

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

argyhoeddi y werin ei fod yn ddewin, ac mewn cyfathrach â bodau annaearol.

Dyma chwedl y clywais fy nhaid yn ei hadrodd ganwaith gan droi y naill fawd o amgylch y llall: — Yr oedd Robin pan yn hoglanc yn cael ei damaid yn y Faynol, am y gorchwyl safnrwth o ddychryun brain. Ond yr oedd y gyneddf oruwchnaturiol yn dechreu blaen-darddu ynddo y pryd hwnw; ac un diwrnod yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac yntau yn llawn aspri ac awydd am fod ynddi, ond yr andros o honi ydoedd, nid âi'r brain yno gydag ef. Tra y byddai ef yn y ffair, yr oeddynt hwythau yn lled sicr o ddisgyn yn heidiau ar y maes gwenith. Pa fodd bynag, trwy rym ei gelwyddoneg, penderfynodd wneud o'r goreu â hwynt am yr amser. Cynullodd holl frain y fro yn un lleng ddu grawclyd i ysgubor y Faynol, a chlodd y drws arnynt, gan brysuro tua'r ffair a'r allwedd yn ei logell.

Dyna fel y byddai yr hen frawd yn trin y teulu duon — go hwylus, onide?

Ond y chwedlau mwyaf rhamanutus yn ei gylch ydynt y rhai hyny sydd yn son am yr ymdrafodaeth fu rhyngddo â'r diafol yn bersonol. Ymddengys fod Robin a'i gyfaill dieflig mewn math o gyngrair, tebyg i'r un a fodolai .rhwng Faust a Mephistopheles, yn ngwaith Goethe, y bardd Germanaidd rhagorol. Addefa pawb fod y diafol yn un lled graff yn ei fargeinion, ond oddiwrth y chwedlau canlynol gwelir fod Robin yn rhy dost iddo. Rywdro yn nghanol haf addawodd ei hunan iddo, gorph ac enaid, pan fyddai'r coed yn ddi-ddail; eithr pan ddaeth yr Hydref, a'r diafol yn galw am gyflawni yr adduned, ymesgusododd y cyfrwysgall Robin trwy ddywedyd, —

Yr eiddew, a'r celyn, a'r pren yw,
Ni chollant eu dail tra byddaut byw.

Yr oedd ar Robin eisiau myn'd i Lundain ar frys gwyllt i fod yn dyst mewn cynghaws cyfreithiol. Fel y dylai pawb wybod, yr oedd taith o Arfon i Lundain, bedwar can' mlynedd yn ol, mor bwysig ac yn cymeryd cymaint o amser a thaith o Lerpwl i Gaerefrog Newydd yn ein dyddiau ni. Ond nid oedd gan Robin, yn nghanol Gwynedd, ond ychydig oriau na byddai ei eisiau yn y Brifddinas. Trwy rym ei ddewiniaeth galwodd am wasanaeth ei gyfaill, ac ymddangosodd yntau ar ffurf march gwelwlas uchelwaed. Neidiodd y dewin ar gefn y march hwn, ac ymaith ag ef fel pluen ar aden corwynt uwchben