Tudalen:Cymru fu.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddu cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr ieuangaf, yr hon, er mwyn hwylusdod, a alwn yn Gwenlliw. Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei thâd, gan mor debyg ydoedd i w diweddar fam, â'i brodyr a'i chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision dysglaer hyny, a'r gwallt sidanog arianaidd, a'r ffurf luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd.


Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na rhyw dlws daearol arall; ac os gweddus adrodd ffaeledd delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon oedd ei bod braidd yn rhy ëon a phenderfynol.


Un haf, daeth câr i'r teulu ar ymweliad â'r Talglyn o Loegr, gŵr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd ef gymaint gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad i hi tros ei ben. Trwy gydsyniad y rhieni o'r ddwy ochr, dyweddiwyd y pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid y wyryf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn mhellach. Dychwelodd Griffin (y boneddwr ieuanc) i Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac i weled blwyddyn cyhyd ag oes un o'r tadau cynddiluwiaidd; ac er fod amser fel pe wedi sefyll, daeth yr adeg hir ddysgwyliedig i ben, ac ail gyfeiriodd yntau ei gamrau tua Chymru, i syllu ar ardduniant ei golygfeydd digymhar, ond yn benaf oll, i weled ei anwylyd, i gynwys pa un, yn ol ei dyb orphwydlog ef, yr oedd Cymru wedi ei chreu, fel blwch ardderchog i gynwys y diemwnt gwerthfawr. Nid oedd absenoldeb o flwyddyn wedi oeri dim ar serch y naill at y llall; eithr i'r gwrthwyneb, yr oedd yn fwy angerddol, a phrofai yn ddiymwad fod eu dedwyddwch yn gorwedd yn nghwmni eu gilydd. Daeth y gwr ieuanc yn fuan i adnabod neillduolion cymeriadol ei gariadferch; a dyrchafodd hyny ei syniadau am dani — ystyriai ei beiddgarwch yn fath o rinwedd newydd yn ei nodweddiad. Treuliwyd yr wythnos gyntaf o ymweliad Griffin mewn rhodiana hyd fryniau a llechweddau yr ardal, a dawnsiai Gwenlliw ar grib clogwyn ag na buasai gafr yn meiddio sangu arno; hi chwareuai ar geulan rhuadr ag y buaesi llithiiad ei throed bychan yn ei hyrddio ddegau o latheni i'r aig trochionog islaw. Yr oedd gwaed ei chyfeillion yn rhedeg yn oer wrth sylwi ar ei heondra; ond pe ceisiasent ei darbwyllo o'r perygl, ni buasai hyny ond chwanegu ei beiddgarwch.