Tudalen:Cymru fu.djvu/283

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

boneddigeiddrwydd yr oes hono, a'i cadwodd yn y llys i weinyddu ar y frenhines; a'i brawd a garcharodd efe am amrai flynyddau - yn nghyntaf yn Nghastell Corfe, a thrachefn yn yr eiddo Sherburne; ac yn y diwedd rhyddhawyd ef trwy i'r Pab ei hawlio fel ei gaplan, ac wedi iddo yntau ei hun dyngu llw yr ymadawai â'r deyrnas, ac na chymerai byth ran yn ei gwladlywiaeth.

Ar ol y fath weithred elynol o eiddo Iorwerth, yr oedd pob ffug wedi ei dynu oddiar ei fwriadau. Ni buasai heddwch bellach ond rhith, a phrofodd pob cais tuag ato yn oferedd a difrod ar amser. Penderfynai Iorwerth yn awr gyflawni prif amcan ei fywyd, sef llwyr ddarostyngiad y genedl Gymreig. Ond, tra yr oedd yn darparu at hyn, Archesgob Canterbury ac amryw esgobion ac arglwyddi eraill a atolygasant arno gael caniatâd i geisio dwyn y Cymry i heddwch cyn apelio at y cledd. Gyda'r bwriad hwn, yr archesgob a ddaeth i Gymru; eithr cyn iddo gyrhaedd yr oedd Llewelyn wedi agor y rhyfelgyrch, trwy anrheithio y Cyffiniau; a dyma Ddechreuad y Diwedd. Nid oedd gan y cenhadwr hedd ond dychwelyd yn waglaw. Ar gyfarfyddiad y Senedd, rhoddes adroddiad o'i genadwri ger eu bron, yr hŷn a gynhyrfodd eu holl nwydau dialgar; deddfasant yn y fan fod treth o'r 15fed yn cael ei gosod ar bob eiddo symudadwy trwy Loegr oll, er mwyn codi arian i alluogi'r brenin yn ei waith o ddarostwng y Cymry. Yn y cyfamser, Llewelyn a amlygodd drachefn ei barodrwydd i fyned naill ai i Groesoswallt neu'r Amwythig a rhoddi gwarogaeth i'r brenin; ond ar y telerau y cydnabyddid y cytundeb a wnaed rhwng Harri III ag yntau, ac hefyd y rhyddheid Eleanor de Montforte a'i gosgorddion, "y rhai." meddai, "gagedwir genych yn groes i ddeddfau moesgarwch cenhedloedd." Ond gwrthodwyd y ceisiadau rhesymol hyn gyda dirmyg; ac mewn uchel lys cyfraith, yn ngwydd y teyrn Seisnig a'i gynghorwyr, barnwyr y Goron, a lluaws o esgobion, ieirll, a barwniaid, darllenwyd yr holl ymdrafodaeth trosodd, a chyhoeddwyd Llewelyn yn deyrnfradwr, yn euog o derfysgu'r heddwch a wnaed rhyngddo â'r diweddar frenin, ac o anrheithiadau ar y Cyffiniau. Penderfynwyd hefyd ar ei ddorostwng gyda phob brys, trwy alw ar ddeiliaid milwrol y Goron i gyfarfod yn Worcester yr haf dilynol gyda meirch ac arfau priodol i gychwyn ar ryfelgyrch i Gymru. A thra y byddai'r rhyfelgyrch yn cael ei ddwyn oddiamgylch, trefnwyd fod i'r Cyffiniau gael eu gwarchod yn dda; fod i'r brenin omedd i'w ddeiliaid yn Lloegr, Iwerddon, a Guiene (yn