Tudalen:Cymru fu.djvu/317

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â hwynt, canys o’u bodd nid elynt ymaith, ac o'u hanfodd trwy ymladd nis gellid eu gyru. Yn y cyfwng hwn, gwŷr y cynghor a benderfynasant ar wneuthur ystafell o haiarn oll. Ac wedi bod yr ystafall yn barod, cyrchu pob gôf yn Iwerddon yno, a phawb ag oedd yn perchen gefail a morthwyl. Yna peri gosod glo cyfuwch a chrib yr ystafell, a pheri fod i'r gwr a'r wraig a'u plant gael digonedd o fwyd a diod; a phan wybuwyd eu bod yn feddwon, dodi y glo oddeutu yr ystafell ar dân, a'u chwythu gyda meginau nes oedd y tŷ yn eiriasdân. Yna cynaliasant gynghor ar ganol llawr eu hystafell. A'r gŵr a arosodd hyd onid oedd y pleit (plates) yn wynion gan wres; a'r pryd hwnw oherwydd y dirfawr wres, efe a ruthrodd a'i ysgwydd yn erbyn y pleit, ac a'i tarawodd allan; a'i wraig a'i dilynodd, eithr namyn ef a'i wraig ni ddihengis neb oddiyno. "A'r pryd hwn, mae yn debygol," ebai Matholwch wrth Fendigaid-Fran, "y daeth efe trosodd yma atat ti." "Diau ei ddyfod yma, ebai Bran, a rhoddi y pair imi." "Yn mha ddull y derbyniaist ti hwynt?" "Mi a'u dosberthais tros fy holl deyrnas, ac y maent yn lluosogi ac yn ymddyrchafu yn mhob lle, ac yn cadarnhau y manau y b'ont gyda gwŷr ac arfau yn y dull goreu a welais erioed."

Y nos hono, dilyn ymddiddan a cherdd a chyfeddach a wnaethant, hyd oni welsant fod cwsg yn well; yna i gysgu yr aethant. Felly treuliasant y wledd hono trwy ddigrifwch, ac ar ei diwedd cychwynodd Matholwch a Branwen gydag ef tuag Iwerddon; ac o Aber Menai y cychwynasant mewn tair llong ar ddeg, a daethant hyd yn Iwerddon. Yn Iwerddon bu dirfawr lawenydd o herwydd eu dyfod. Ac nid ymwelodd na phendefig na phendefiges â Branwen ar na roddai hi iddynt naill ai cae (clasp), ai modrwy, ai teyrndlws, teilwng i'w gweled yn myned o'r llys: felly y treuliodd hi y flwyddyn yn ddifyr a chlodfawr. Ac yn yr amser hwnw beichiogiad a ddamweiniodd iddi, ac yn y priod amser ganwyd iddi fab, a galwyd ef Gwern ab Matholwch, a rhoddwyd ef i'w famaethu yn y fan yr oedd goreuwyr yr Iwerddon. Ac yn yr ail flwyddyn wele derfysg yn Iwerddon o herwydd y sarhad a dderbyniasai Matholwch yn Nghymru, a'r taliad a gafodd am ei feirch; a'i frodyr-maeth [foster-brothers], a'r rhai oeddynt nesaf ato, yn edliw yn ddigêl a pharhaus iddo ei waradwydd. Ac nid oedd heddwch iddo gan y terfysg hyd oni chaent ddial ei sarhad. A'r dial a wnaethant ydoedd gyru Branwen o'i ystafell ef, a'i gwneud yn gogyddes i'r llys, a pheri i'r cigydd wedi iddo ddryllio y cig bob bore roddi bonclust iddi.