Tudalen:Cymru fu.djvu/318

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dyna ei phenyd. "Ie, arglwydd," ebai ei wŷr wrth Fatholwch, "pâr weithian wahardd y llongau, yr ysgraffau, a'r coraclau, fel nad el neb i Gymru; ac a ddel o Gymru carchara hwynt, rhag na ddychwelont, ac adrodd yr hanes." Ac efe a wnaeth hyny, ac felly y bu am dair blynedd.

A Branwen a feithrinodd aderyn drytwen (starling), odditan y noe bobi, ac a ddysgodd iaith iddo, a dysgodd i'r aderyn pa fath wr oedd ei brawd. A hi a ysgrifenodd lythyr yn dysgrifio ei phoenau a'i hanmarch, a'i rhwymodd am fôn aden yr aderyn, ac a'i hanfonodd tua Chymru. A'r aderyn a ddaeth i'r Ynys hon, a chafodd Bendigaid- Fran yn Ngher Seiont yn Arfon mewn cynghor, ac efe a ddisgynodd ar ei ysgwydd, ac a ysgydwodd ei blyf oni chanfyddwyd y llythyr, a gwybuwyd i'r aderyn gael ei feithrin mewn modd aneddog.

Yna cymerodd Bendigaid-Fran y llythyr, ac edrychodd arno; ac wedi iddo ei ddarllen, doluriodd yn fawr o herwydd trallod Branwen. Ac yn ebrwydd efe a ddanfonodd o'r lle hwnw genadau i wysio yr holl Ynys, a pharodd ddyfod pedair gwlad a saith ugain hyd ato, ac efe ei hun a gwynodd wrth y cyngor o herwydd trallod ei chwaer. Felly ymgyngorasant, a phenderfynasant fyned i'r Iwerddon, a gadael saith o wyr yn dywysogion yma, a Charadog ab Bran yn benaf arnynt hwy a'u saith marchog. Yn Edeyrnion y gadawyd y gwyr hyn; ac oblegyd hyny gosodwyd y saith marchog ar y trefydd. Ac enwau y gwŷr hyn oeddynt Caradawc ab Bran, a Hefeydd Hir, ac Unic Glew Ysgwydd, ac Iddic ab Anarawd Gwallgrwn, a Fodor ab Erfyll, a Gwlch Minascwrn, a Llassar ab Llaesar Llaesysgwydd, a Phendaren Dyfed yn was ieuanc gyda hwynt. A'r rhai hyn oeddynt y saith cynweisiaid a gymerent ofal yr Ynys, a Charadawc ab Bran yn benaf o honynt.

Bendigaid-Fran a'r lluoedd hyn a hwyliasant tua'r Iwerddon, ac ni buont hir ar y môr cyn dyfod i ddwfr bâs lle nid oedd ond dwy afon-Lli ac Archan eu gelwid, a'r gwyr a orchuddient y môr. Yna efe gymerth hyny o luniaeth oedd ganddo, ac a'i dygodd ar ei gefn tua thir Iwerddon. A meichiaid Matholwch oeddynt ar lan y weilgi, a hwy a ddaethant at Fatholwch, ac a gyfarchasant well iddo. Duw a'ch noddo," ebai yntau, "pa chwedlau sydd genych o'r môr?" "Arglwydd," ebynt, "y mae genym newydd rhyfedd. Coed a welsom ar y weilgi yn y lle nas gwelsom erioed yr un pren. Y mae hynyna yn rhyfedd. A welsoch chwi ddim heblaw hyny ?"