Tudalen:Cymru fu.djvu/345

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffurfio'n fath o linynau arianliw, ar draws, ac ar hyd mynwes y mynydd ban. Ond os bydd yr hin yn ddryghinllydd, bydd yn dywydd enbyd? Bydd y gwynt fel pe bae wedi d'od o'i garchar, ac yn ymruthro, ac yn ysgubo llon gau'r môr a choed y maes. Us bydd yn gwlawio, pistylla'r cymmylau nes hanner boddi'r byd. Poed hyn fel y bo, amser hyfryd ddigon ydyw mis Hydref; a'r noson olaf o hono ydyw ei brif ogonmiant, sef Nos Galangauaf! Y mae rhyw swyn arbenig y' mywyd syml, tawel, a digynhwrf y mynyddoedd; yma ceir unigrwydd syn a llawenydd gorhoenus yn cydfyw yn llaw-law hefo'u gilydd. 'Yr hên ŵr a'i gudynau fel yr eira, a'r bachgen gwridgoch, yn cyd-ymddifyru 'n fwyn-lon;—yr hen Neina druan ag amser wedi tynu ei og ddrain dros ei gwynebpryd hirgrwn, a'r eneth ieuangc a dwy-foch fel gwaed, yr hon, braidd, y plyg y babwyren ir o dan ei throed, yn cyd-fwynhâu yr un campau diniwaid: unent yn yr un floedd chwerthinllyd; ac ymlonent yn gyd-radd pan gaffent gymmorth i chwerthin gan rai o'r plant a fydd yn ben y gamp am chwedl ddigrif, neu ryw ystumiau gwamal. Bywyd hyfryd yw bywyd yn y mynyddoedd. Desgrifir ef fel hyn yn un o Fugeilgerddi a * * :—

Ryw noson oer ddryghinog yn HAFOD LWYFOG lan,
O dan y simneu fawr yn glyd yn profi blas y tân :
Eisteddai TAIR cenhedlaeth, —y Plant,—y Tad a'r Fam,
A Neina yn ei chadair wellt,—a Theida 'n hen a cham
Mewn cadair freichiau dderw, yn trin y tân a'i ffon,—
A'r plant oedd yn ymryson bod odan ei lygaid llon!
Hen arfer HAFOD LWYFOG er dyddiau "Cymru Fu,"
Oedd adrodd chwedlau wrth y plant ar hirnos gauaf du;
Un hynod iawn oedd Neina am gofio naw neu ddeg
O bethau glywodd gan ei Nain, am gampau'r Tylwyth Teg,
Wrth gribo gwlan ddechreunos:—a'i merch yn diwyd wau ;
A'i gŵr yn prysur wneud llwy bren, neu yntau efail gnau ;
Ond Teida oedd y goreu am hen gofiannau gwlad
Y rhai a ddysgodd yn y Cwm wrth gadw praidd ei dad.

Dyna ddarlun o dai'r mynyddwr aramseroedd cyffredin; ond ar Nos Galangauaf, nid un teulu fyddai yn nghyd; ond pawb trwy'r Cwm yn ddiwahân; gwan hen, a gwan ifangc: y llangciau cryf esgyrniog, a'r lodesi glandeg chwim ar eu troed; y tadau gwybodus, a'r mamau llawn pryder, a syberwyd. Byddai yr henlangc consetlyd yno, a'r hen ferch wastad ei chwedl, yn anghofio am dro weled bai ar bawb a phob peth yn dangos ei wyneb. Ym Mlaen y Glyn y byddai pawb yn y Cwm, er cyn cof, yn arfer cadw Nôs Galangauaf. Hen dŷ hir, digon symol yr olwg arno oddiallan, oedd Blaen y Glyn. Yr oedd yno