Tudalen:Cymru fu.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

witho am brynu spectol bren a chwilio trwyddynt am gath ddu mewn tywyllwch. Gyda llaw, oddiar yr hanesyn hwn o eiddo y "Wlad" Gymreig y sylfaenodd y Sais ei chwedl yn nghylch " Siôr a'r Ddraig."


Sylwer eto ar farn y ddwyblaid o barth tarddiad yr enw Beddgelert. Y Parch. P. B. Williams, mab y diweddar Barch. Peter Williams (o fendigedig goffadwriaeth), a ddywedai i'r lle hwnw gael ei enwi oherwydd i ryw hen feudwy, ar ol ymgilio oddiwrth y byd, ymsefydlu yn y fan, ac adeiladu bwth; ac yn mhen enyd codwyd eglwys lle y safai preswylfa y meudwy a galwyd y lle Bwlch Cilfach Garth. Llygrwyd yr enw yn Bwlch Cilarth, a llygrwyd y gair yna drachefn yn Bethcelert. Dyna lygriad iawn; ond y mae yn rhaid iddo fyned trwy un radd arall o lygredd cyn y cyrhaedda ei berffeithrwydd llygredig presenol— Beddgelert. Yr hynafiaethydd, W. Williams, Llandegai, a ddywedai i'r lle gael ei enw oddiwrth St. Celer, nawddsant Llangeler, Ceredigion. Gyda phob parch i'r ddau awdurdod blaenorol, rhaid i mi gael tarddiad eglurach. Barna Oracl arall mai ei nawddseintio a gafodd y fan ar fynach o'r enw Celert, un o hynafiaid Serigi Wyddel, yr hwn a breswyliai yn ninas Ffaraon, heb fod nepell o Beddgelert. "Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys." Clustfeinier ar y " Wlad" yn traethu ei llên: —

"Llywelyn Fawr a gyfaneddai yn ynys Môn, ac yr oedd iddo hafotty yn mynyddoedd Eryri, gerllaw y fan y saif yn bresenol bentref Beddgelert, lle y treuliai efe rai wythnosau yn yr haf gyda'r difyrwch o hela iwrchod, ysgyfarnogod, &c. Gan y tywysog hwn yr oedd milgi rhagorol a dderbyniasai efe yn anrheg oddiwrth ei dad- yn-nghyfraith, loan, brenin Lloegr, ac enw y ci ydoedd Kilhart. Yn gyffredin dygai Llywelyn ryw ran o'i deulu gydag ef i hafota; a'r tro y cyfeirir ato yma, ei unig blentyn a'i famaeth. Cychwynodd allan i hela un bore, gan adael ei etifedd yn ngofal y forwyn hyd oni ddychwelai. Y famaeth yn llawn chwilfrydedd am weled y golygfeydd swynol oddiamgylch, a adawodd y plentyn yn ei gryd, ac a aeth allan i rodiana [Seisnes oedd hi, meddai Glasynys]. Wedi i Llywelyn a'i gymdeithion ddechreu hela, sylwyd fod Kilhart (neu Celert, yn ol dull pert y Cymro o swnio y gair) yn absenol a synai pawb yn fawr at ei absenoldeb. Pa fodd bynag, dychwelodd Llywelyn a'i osgordd yn gynarach nag arfer y diwrnod hwnw, a chyrhaeddasant yr hafotty o flaen y forwyn; a phan yn ymyl cartref, wela Celert yn orchuddiedig â