Tudalen:Cymru fu.djvu/368

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uthredd Cadair Idris? Pa'r un yw'r lle tawelaf, rhwng bryniau glasgroen Maldwyn, a'i yng nghanol gwytilineb Ystrad Yw, neu Ystrad Towy? Cyttunwn i fyned i Gwm Cowarch. Sut le ydyw hwnw? Yn mha le y mae? Na falier, awn i Gowrach, ac arhoswn yn yr Hafod noson gyfan. Yn mha le y cawn damaid a llymmaid, neu'wlyb a gwely," chwedl pobl chwarelydd? Pob peth yn iawn, dim ond myned i Gowrach? Cwm ydyw Cowrach tua dwy filltir o hyd, afon wrth gwrs yn rhedeg drwy ei ganol, a digon o frithylliaid ynddi bob amser. Tai bob ochr i'r Cwm; rhai a'u talceni i'r allt, ac ambell un a'i gefn yno. Math o wtra, nid ffordd na llwybr sydd yno, yn dirwyn ar draws ac ar hyd, nes ein dwyn i le gwastad a fu unwaith yn fawnog, ond erbyn hyn sydd gyttir gwastadlyfn. Ym mhen uchaf y Cwm saif craig anferth fel mewn blys syrthio bob munud. Y mae ganddi hên wyneb hagr—bygythiol! Ond o dan ei gên, y mae'r Hafod. Hên dy hirgroes, heb weled erioed galch ond o bell yw'r lle: ond awn i mewn. Mae yno groeso calon i bob gwyneb byw bedyddiol. Y mae hynny yn rhywbeth onid ydyw? Nid ofnem na chaem weled peth newydd—mae pob peth i'r teithydd yn newydd pan y mae yn y mynyddoedd. Sut le yw'r Hafod? Y mae yno globen o gegin fawr, a simneu gymmaint a pharlwr go lew: a thwll mawn ddigon o faint i roi gwely ynddo pe buasai angen. Pan gurasom yn y drws fe'n hattebwyd yn gyfarthiadol gan ryw haner dwsin o gorgwn blewog, a dau ddaear-gi neu dri. Ond daeth rywun at y drws, a chawsom wrth ysgwyd llaw ysgwyd calon hefyd: nid ryw hên ddefod lugoer moni hi yma; ond y mae y galon i'w theimlo yn curo yn y bysedd ac yng nghledr y llaw. y Wedi cael maidd a brechdan fara ceirch teneu, yr ydym am drin y byd ei helyntion a'i gofion. Y mae'r tân yn olwyth, a'r flammau yn chwyrnu wrth ymryson esgyn! Ninnau, ddau ohonom, yn eistedd mewn dwy gadair freichiau; un o dderw du, a'r llall o fasarn gwyn. Gyferbyn a ni, sef yw hynny am y tân, yr oedd f'ewyrth Rolant, yn siarad ac ar yr un pryd yn trin ei ysturmant. Y mae modryb Gwen a'i golwg lawen tua'r cwppwrdd tridarn yn chwilio am gwyr i rwbio bwa ei ffidil; ac y mae'r mab hynaf yn cyweirio ei delyn yn ymyl y bwrdd mawr. debyg i hên wydd yn clegar am geiliogwydd y byddwn yn ystyried nâd annifyr y Glarioned bob amser; etto yn yr Hafod,—yng nghesail y mynyddoedd, yr oeddym yn foddlon i ddigymmod hefo unrhyw fath o offer cerdd. Wedi dodi'r canwyllau yn eu lleoedd priodol, a thaclu'r. Er mai pur