Tudalen:Cymru fu.djvu/371

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hawdd yw d'wedyd, " Daccw'r Wyddfa;"
Nid eir drosti ond yn ara';
Hawdd i'r iach, a fo'n ddiddolur,
Beri i'r claf gymmeryd cysur.

Dod dy law, ond wyt yn coelio,
Dan fy mron, a gwylia'm briwo;
Ti gei glywed, os gwrandewi,
Swn y galon fach yn tori.

Ow, fy nghalon! tor os tori,
Pa ham yr wyd yn dyfal boeni,
Ac yn darfod bob yn 'chydig,
Fal ia glas ar lechwedd lithrig.

Trwm y plwm, a thrwm y ceryg,
Trwm yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu'n iach lle byddo cariad.

Da gan adar mân y coedydd;
Da gan ŵyn feillionog ddolydd:
Da gan i brydyddu'r hafddydd
Yn y llwyn, a bod yn llonydd.

Nid oes rhyngof ag ef heno
Onid pridd, ar arch, ar amdo:
Mi fum lawer gwaith yn mhellach,
Ond nid erioed â chalon drymach.

Hiraeth mawr, a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn tori'm calon:
Pan f 'wyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw hiraeth, ac a'm deffry.

Tebyg yw dy lais yn canu
I gog mewn craig yn dechreu crygu;
Dechreu cân heb ddiwedd arni;
Harddach fyddai iti dewi.

Brith yw'r ser ar noswaith oleu,
Brith yw meillion Mai a blodau;
Brith yw dillad y merchedau,
A brith gywir ydynt hwythau.

Rhois fy mryd ar garu glanddyn;
Fe roes hwn ei serch ar rywun;
Hono roes ei serch ar araíl:
Dyna dri yn caru'n anghall.