Tudalen:Cymru fu.djvu/388

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y teulu, ar yr aelwyd wrth fagu y plant—dyma feithrinfa gyntaf y drwg. Rhieni, drwy fân—gelwyddau a olygant yn ddiniwed—addaw a bygwth heb byth gyflawni—addysgant eu plant i fynu yn y gelfyddyd ddu o'u mabandod. Megir hwy fel hyn yn nghymdeithas celwydd; ymgynefinant â'r gwenwyn o'r bru, yr hwn a wenwyna ei holl gyfansoddiad moesol. Y mae cymdeithas fel hyn yn cael ei gwenwyno yn ei ffynonell. Y rhai a ddysgwyd fel hyn i gellwair âg anwiredd o'u mebyd, ac feithriniwyd o'r groth yn ei gwmpeini, a syrthiant dan ei ddylanwad o angenrheidrwydd; ac anhawdd iawn fydd eu deffro i ystyriaeth a theimlad o'r drwg, a'u cael i ymadael ag ef. Os yn mhen ffordd celwydd yr hyfforddir plentyn gan ei rieni gartref, nid at wirionedd yr ymgryfhâ hwnw ar y ddaear: odid fawr nad myned yn mlaen ar hyd-ddi a wna ar hyd ei oes. Yr unig feddyginiaeth i'r pla mawr yn ei holl raddau ydyw GWIRIONEDD.

Y llall, sef y Diog, nid oedd chwaith yn neppell oddi wrthym. Yr oedd y gwr hwn yn enwog mewn diogi— yr olwg arno yn wir ddelw o'r peth. Yr oedd yn ddyn corffol, cryf, ac iachus; ond ni fynai weithio. Arferai y diwyd a ddysgrifiwyd o'r blaen ddywedyd am dano, "Y mae diogi wedi myn'd i asgwrn mawr Ned." Credem yn ddilys y buasai yn dyoddef merthyrdod dros egwyddorion diogi a seguryd. Os ceid ganddo wneud diwrnod o waith, drwy ddirfawr ymdrech byddai yn chwythu ac yn tagu, yn tuchan ac yn gruddfan, nes y byddai yn boenus i fod o fewn lled cae iddo. Ymddangosai y diwrnod gweithio gyhyd a deng mlynedd yn ei olwg, a byddai gweithio un diwrnod mewn deng mlynedd yn orchest fawr iawn iddo ei chyflawni. Cenedlodd liaws o blant, oll yn ferched, ar ei wir lun a'i ddelw ei hun. Tympathau mawrion, afrosgo, annghymalog, anystwyth, cyffelyb i sachau cynfas wedi eu llenwi â manus, diog i berffeithrwydd ystyr y gair, oeddynt bob un. Nid oedd yn y tŷ, o ddodrefn, ond hen gwpwrdd tridarn, a math o fwrdd, a stol i bob un eistedd, a gwalanod o wellt neu o fanus, a chydau cardota. Unwaith yr ymollygent i'r gwellt, yn iach godi o hono, nes y byddai i eisio bwyd gnoi yn eu coluddion. Yna gwelid y tad a'i fintai ferched yn cymeryd bob un ei gwd, ac yn troi allan i lusgo eu heylau ar draws y wlad o dŷ i dŷ. Nodai y tad, fel blaenor y fyddin, ei chylch cardotëig i bob un o'r