Tudalen:Cymru fu.djvu/403

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na gwell na hono. Ac Arthur a ddarparodd i ymadael Yna Arthur a ddanfonodd genadau at yr Iarlles yn erfyn arni ollwng Owain i dd'od gydag ef am dri mis fel y dangosai efe ef i bendefigion a phendefigesau Ynys Prydain. A'r Iarlles a ganiatodd, er mai anhawdd fu hyny ganddi. A daeth Owain gydag Arthur i Ynys Prydain. Ac wedi ei ddyfod i blith ei genedl a'i gyfeillion, efe a arosodd am dair blynedd yn lle tri mis.

Ac fel yr oedd Owain, un diwrnod, yn bwyta ar y bwrdd yn Nghaerlleon ar Wysg, wele forwyn yn dyfod ar farch gwineu, mwng-orych, wedi ei orchuddio gan ffroth. Ei gwisg oedd o bali melyn; a'r ffrwyn a'r hyn a welid o'r cyfrwy, aur oedd oll. A hi a ddaeth hyd at Owain, ac a gymerth y fodrwy oddiam ei law; Fel hyn," ebai hi "y gwneir i'r twyllwr, y bradwr anghywir, a'r hocedwr, a'r difarf." Yna hi a drodd ben ei march ac a aeth ymaith. A daeth i gof Owain ei ymgyrch, a thristhau a wnaeth. Ac wedi darfod bwyta, efe a ddaeth i'w letty, ac mewn pryder y bu efe y nos hono. Tranoeth, efe a gyfodes; ac nid i'r llys y cyrchodd efe, namyn i eithafoedd byd a diffaeth fynyddoedd. Ac efe a fu felly hyd oni ddarfu ei ddillad oll, a hyd oni ddarfu ei gnawd o'r braidd, ac hyd oni thyfodd blew hirion trwyddo. Cyd-gerdded a wnai a bwystfilod, a chyd-ymborthi â hwynt, hyd onid oeddynt gynefin ag ef; nes o'r diwedd y gwanhaodd efe fel nad allai gydymdaith â hwynt. Yno dyfod o'r mynyddoedd i ddyffryn, a dyfod at y parc tecaf yn y byd, ac iarlles weddw oedd piau y parc.

Ac un diwrnod, aeth yr Iarlles a'i llawforwynion allan i orymdaith ger ystlys llyn ag oedd yn nghanol y parc, a gwelent yno eilun dyn a'i ddelw, a'i ofni a wnaethant. Er hyny, hwy a aethant ato, a'i deimlo, a'i edrych. Gwelent fod bywyd ynddo, er ei fod yn gwywo o flaen yr haul. A dychwelodd yr Iarlles i'r Castell, a chymerodd lonaid gorflwch o iraid gwerthfawr, ac a'i rhoddes i un o'i llawforwynion. "Dos," ebai hi, "a hwn genyt, a dwg y march acu a'r dillad genyt, a dod hwynt gerllaw y gwr a welsom gyneu. Ac ir ef a'r iraid hwn ar gyfer ei galon; ac o bydd enaid ynddo, efe a gyfyd gan yr iraid hwn. Gwylia hefyd beth a wnel efe."

A’r forwyn a ddaeth rhagddi, a rhoddes y cwbl o'riraid arno, a gadawodd y march a'r dillad wrth ei ymyl, ac a ymguddies i'w wylio. Ac yn mhen ychydig, hi a'i gwelai yn cosi ei freichiau, ac yn codi i fynu, ac yn edrych ar ei gnawd. Cywilyddiodd gan mor hagr oedd y ddelw ag