Tudalen:Cymru fu.djvu/408

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi fi yn ei le, mi a ymladdaf à chwi."Gwnawn" ebynt hwythau,“ myn y gwr a'n gwnaeth."

A myned a wnaethanti ymornestu âg Owain; a gofid a gafodd efe gan y ddeuwas. Ar hyny y llew a gynorthwyodd Owain, a hwy a orfuant ar y gweision. Yna y dywedasant hwythau, “Ha! unben nid oedd amod i ni ymladd namyn â thydi dy hun ; ac anhawddach ini ymladd â'r anifail nag â thydi.” Ac Owain a ddodes y llew yn lle y buasai y forwyn yn ngharchar, ac a wnaeth fur o feini ar y drws. Myned i ymladd â'r gwyr fel cynt, eithr ni ddaethai nerth ato. Yr oedd y ddeuwas yn ormod iddo, a'r llew fyth yn disgrechu am fod gofid ar Owain; nes o'r diwedd, efe a rwygodd y mur, ac a gafodd ei ffordd allan. Ac yn gyflym efe a laddodd y naill a'r llall o'r gweision: ac felly yr arbedwyd Luned rhag ei llosgi. Yna y daeth Owain a Luned gydag ef i gyfoeth IARLLES Y FFYNON. A phan y daeth yno, efe a gymerth yr Iarlles gydag ef i Lys Arthur. A hi fu ei wraig tra fu hi byw. A hwy a gymerasant y ffordd oedd yn arwain i lys y gŵr du traws. Ac Owain a ymladdodd ag ef, ac nid ymadawodd y llew ag Owain hyd oni orfu ar y du traws. A phan gyrhaeddodd efe Lys y gŵr du draws, efe a aeth i mewn i'r neuadd, ac yno efe a welai bedair gwraig ar hugain tlysaf a welodd neb erioed. Ac nid oedd y dillad oedd am danynt werth pedair ar hugain o arian; a chyn dristet oeddynt âg angau. Ac Owain a ofynodd ystyr eu tristwch. Hwythau a ddywedasant mai merched ieirll ooddynt, "a daethom yma bob un gyda'r gwr mwyaf a garem o'r byd. A phan ddaethom ni yma, ni a gawsom lawenydd a pharch; a'n gwneuthur yn feddw. A gwedi ein gwneuthur yn feddw, daeth y cythraul a biau y llys hwn, ac a laddodd ein gwyr oll, ac a ddygodd ein meirch ninau, a'n dillad, a'n haur, a'n harian. A chyrph ein gwyr ni sydd eto yn y tŷ hwn, a llawer o gelanedd gyda hwynt. A dyna i ti, unben, ystyr ein tristwch ni. A drwg yw genym dy ddyfod di yma, rhag digwydd drwg i tithau."

A thrist fu Owain wrth hyny, ac efe a aeth i orymdaith allan. Ac efe a welai farchog yn dyfod ato, ac yn ei gyfarch trwy lawenydd achariad fel pe buasai yn frawd iddo, a hwnw oedd y gwr du traws. "Duw a wyr," ebai Owain, "nad i gyrchu dy lawenydd y daethum i yma." "Duw a wyr," ebai yntau, "nas cei dithau ef." Ac yn y lle ymladd a wnaethant ac ymdaraw yn ffyrnig. Ac Owain a ddifarchodd y cawr, ac a rwymodd ei ddwylaw tu ol i'w