Tudalen:Cymru fu.djvu/409

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gefn; ac efe a erfyniodd ei fywyd oddiar law Owain, ac fel hyn y dywedodd efe, "Fy arglwydd Owain," ebai ef, "yr oedd darogan y deuet ti yma i'm darostwug i. A thi a ddaethost, ac a orfuaist arnaf. Yspeiliwr a fum i yma, ac yspeildŷ fu fy nhŷ; eithr os rhoddi di i mi fy mywyd, mi a af yn ysbyttywr, ac a gynaliaf y tŷ hwn yn ysbytty i wan ac i gadarn, tra byddwyf byw, er daioni dy enaid di.” Ac Owain a gymerth hyny ganddo; ac yno y bu Owain y nos hono.

A thranoeth, y cymerth efe y pedair gwragedd ar hugain a'u meirch, a'u dillad, a'r da a'r tlysau ag oedd ganddynt, ac a ddaeth gyda hwynt byd yn llys Arthur. A llawen a fuasai Arthur o'i gael pan y collasai efe ef gynt, eithr llawer llawenach yn awr. Ac o'r gwragedd hyny, yr hon a fynai drigo yn llys Arthur, hi a drigai; a'r hon â fynai fyned ymaith, elai.

Ac o hyny allan, Owain a drigodd yn Llys Arthur, yn fawr ei barch fel penteulu; onid aeth efe ar ei gyfoeth ei hun, sef oedd hyny tri chant o frain a adawsai Cynferchyn iddo. Ac i'r lle y delai Owain gyda y rhai hyn, gorfod a wnai. A'r chwedl hon a elwir Chwedl IARLLES Y FFYNON

NOS NADOLIG.
DISGWYL Y PLYGAIN.

DRIUGAIN mlynedd i heno, yr oedd hên ŵr briglwyd, gwargam, sydd yn adrodd yr hanes yma wrthych yn llanc ieuanc deunaw oed; ac wrth adgofio digwyddiadau difyrus y Nos Nadolig hono, bron na chreda mai deunaw oed ydyw eto, er fod ei ogwydd ar bedwar ugain mlynedd. Wel, y mae gan adgof ei phleserau. Pleserau gobaith ydynt eich pleserau chwi, fy nghyfeillion ieuainc—pleserau edrych yn mlaen; fy mhleser inau ydyw edrych yn ol. Edrych yn ol driugain mlynedd trwy niwl amgylchiadau, a chanfod rhyw lecyn dedwydd ar fy mywyd pan ddechreuodd tân cariad gyneu ar allor fy serch, yn ngoleuni yr hwn y gwelais fy hun yn unig a diamddiffyn.

Wrth edrych yn ol (ar fan i, yr wyf yn teimlo yn