Tudalen:Cymru fu.djvu/412

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadeiriau a stolion trithroed, ac ambell un yn gorbwyso ochr ei stol ac yn cael cwymp lled drwstan, er mawr ddifyrwch i'r gwyddfodolion; ac ar ol i'r chwerthin a'r dyhïan oherwydd hyny fyned heibio, dyma E. Huws,Yswain, Bodangharad, o'i gadair ddwyfraich yn y gongl yn codi i agor y cyfarfod, ac wedi dodi ei bibell hir o'r neilldu, cymeryd corniad da o'r ddiod griafol oedd ganddo ef fel pawb arall o'i flaen, pesychu cryn lawer fel y byddis wrth deimlo pwysigrwydd sefyllfa, dechreuodd.

Fy nghymdogion anwyl,—Dydw'i fawr o siaradwr, fel pe tae; ond y mae geny' feddwl, fel pe tae, taswn I wedi cael dysg fod geny' feddwl mawr, fel tae; mi fydda yn ceisio perswadio fy hun fod esgid fy nhafod I yn rhy fechan i droed fy meddwl I, hyny ydi, fel tae, tyden nhw ddim ffitio'u gilydd. Ond mi geisia dynu fy nhroed i mewn a stretsio fy esgid allan goreu gallaf, fel tae, heno. Mi fydda yn meddwl bob amser mai bendith fawr ydi'r Gwyliau yma, rhyw gareg filltir ydi o ini ar ei siwrnai fawr, fel tae; rhyw inn ar fin y ffordd lle byddwn yn troi i mewn i gael tipyn o spree (nid wrth feddwi ydwi'n feddwl ychwaith, fel tae) rhyw ben y gwys, fel tae, lle byddwn ni, yr hwsmyn yma, yn chwanog i edrych yn ol ar ein gwaith, a phenderfynu gwneud y gwys nesa' yn well, felly o gwys i gwys yr yden ni yn troi ein grwn i gyd, ac yn cael ein symud i ffwrdd, ac eraill yn cym'ryd ein lle. Y mae nhw yn deud fod yr hen dad Nadolig yn hen iawn, cyn hyned a Christionogaeth os nad yn hyn; canys rywbryd tua'r amser yma ar y flwyddyn y byddai'r Derwyddion yn tori yr uchelwydd gyda rhwysg a rhialtwch mawr fel tae, ac yn aberthu y ddau darw gwyn dianaf yn offrwm i'w Duw am y gwydd cysegredig, ac yn rhanu'r cangau rhwng y bobl, a'r rheiny, druain, yn eu hogian ar gapan drysau eu tai er dyogelwch rhag anffodion ac ysprydion drwg am y flwyddyn hono. Pan giliodd Derwyddiaeth o flaen Cristionogaeth, ni ddileodd yr olaf mo'r hen ŵyl arbenig hon, feallai eu bod wedi ei symud ychydig, a pheri i'r hen dad dd'od atom ar amser arall. Nid oedd y Crist'nogion ychwaith i gyd o'r un farn ar y pwnc, mynai rhai iddo ddyfod ar y 25ain o Ragfyr, mynai y lleill iddo dd'od ar y 6ed o Ionawr; a bu raid i'r hen wr am beth amser ddŵad i'n byd ddwy waith yn y flwyddyn; un tro at eglwys Rhufain, a'r tro arall at eglwys Groeg, fel tase. Beth bynag, fe ddaru Julius I., Esgob Rhufain, tua chanol y 4edd ganrif, benderfynu mai ar y 25ain o Ragfyryr oedd yr hen ŵr i ddwad o hyny allan. A felly y daeth