Tudalen:Cymru fu.djvu/414

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghario I trwy y llaid dwfn fyddai ar ei gwaelod; 3edd, am fod yn hawddach i mi gael fy nghymeryd am ddyn tlawd diarian ar draed, gan y gwylliaid ysglyfus a wylient ddychweliad y porthmon o'r ffair, i'w yspeilio o'r oll a feddai. Byddai Pero, taid y ci acw sydd gennyf yn awr, gyda fi ar fy nhaith bob amser—yn cerdded wrth fy lledol ar hyd y dydd, a'r nos yn cysgu wrth draed fy ngwely. Nid ychydig oedd fy ymddiried ynddo. Ci call oedd o; yr oedd mwy yn mhen Pero nag oedd yn mhen dwsin o gŵn cyffredin. Buom ein dau mewn peryglon mynych; ond rywfodd yr oeddwn yn d'od trwyddynt yn well na'm disgwyliad. Mae llawer o honnoch yn cofio Pero? [Catrin Dafis :—O, ydym; nefoedd i'w enaid]. Wel, yr oeddwn yn d’od adref tros Fwlch Penbarras, yr hwn, fel y gwyddoch, sydd ar yr hen ffordd rhwng Wyddgrug a Rhuthyn, un tro; ac yr oedd hi yn berfeddion o'r nos arna'i yn croesi—rhwng un a dau ar fore Sul, os da 'rwy'n cofio. Ychydig islaw Pen y Bwlch, y mae bedd y Gwyddel hwnnw a lofruddiwyd gan Wyddel arall pan oedd y ddau ar er taith o ffair Rhuthyn; ac fel y mae yn gywilyddus dweyd porthmyn oedd y ddau—fe ddylasent hwy, beth bynnag, wybod gwell pethau. Wel, byth oddiar amser y gyflafan yma, yr oedd cryn lawer o draddodiadau fod ysprydion yn hoffi ymlithro hyd y fangre honno, yr hyn a barai imi glustfeinio a llygadu fy ngoreu bob amser wrth groesi y Bwlch ar y nos. Ac felly yr oeddwn y nos honno.

Gyda fy mod wedi cyrhaedd Pen y Bwlch, dyma Pero yn dechreu chwyrnu, a minnau yn dechreu arswydo; sefyll, gwrando, clywed sŵn siarad. Tan grynu, myned ychydig yn nes; teimlo'n siŵr mai lleisiau dynol oedd y swn, beth bynag a'u llefarai. Pero yn cyfarth yn fygythus, minau yn gwrando drachefn, ac yn meddwl am y porthmon hwnnw, druan, a laddwyd ar y mynydd. Gwrando wed'yn, a deall mai Gwyddelig oedd yr iaith a siaredid gan y lleisiau. Yna rhuthrodd i'm meddwl y syniad ofnadwy, ai tybed mai y llofrudd a'r llofruddiedig oedd yno yn ysprydol ail fyned tros y weithred o un yn lladd y llall : Yr wyf yn cyfaddef fod fy ngwaed a'n newrder i lawr yn rhywle tua gwadnau fy nhraed, os nad yn is. Meddyliais am droi yn ôl, ond yn mlaen y mynai Pero fyned; ac nid oeddwn am i neb gael dweyd fod creadur o gi yn ddewrach na Roli Rolant y Porthmon. Yn mlaen yr aethum inau, er y buasai yn well genyf gerdded deng milltir o ffordd na rhoddi cam yn mlaen y pryd hwnw; ond nid da gan neb gael ei ystyried yn llwfrddyn, chwi wyddoch. Felly, yn