Tudalen:Cymru fu.djvu/415

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a yr mlaen yr eis I; a beth oedd yno debygech chwi?-dau Wyddel mewn cymaint dychryn â finau, a chan ofn wedi sefyll yn y fan yr oeddynt, gan feddwl mai banshee oedd y ci a minau. Wedi i ni ddeall ein gilydd, cefais allan mai myned yr oeddynt o'r Dyffryn i Dreffynon i ymofyn rhai o'u cydwladwyr i'w cynorthwyo i gadw gwyłnos i rhyw frawd ymadawedig. Canasom "Nos Dda," ac aeth pawb i'w ffordd, wedi ei ddychrynu ond nid gan ddrychiolaeth. A dyna fu am y tro hwnw.

Ond yn Birmingham y bu hi yn galed arnom pan yn d'od adref o Lundain, un tro. Byddwn I yn bur fanwl gyda fy lletty; ac arferwn lettya bob amser yn y Ffythars pan yn Birmingham, am fod y bobl yn onest, a'r tŷ yn dý parchus. Ond y tro hwn, yr oedd y Ffythars yn llawn, a dywedodd y wraig wrthyf nad oedd yno wely ar fy ngyfer, ond yr ymorolent hwy am un. Tybiwn inau fod ateb braidd yn gwtta i ddyn fel fi—dyn a mwy na llon'd ei logell o arian, dyn ag yr oedd cynifer o'r Saeson blonegog yn dibynu arno am gig; teimlais fy holl waed porthmonol yn berwi, a phenderfynais y chwiliwn allan am letty troswyf fy hun. Felly, allan yr eis, gan wneud golwg mor ffyrnig fyth ag y medrwn ar bobl y Ffythars. Crwydrais hyd yr heolydd gan edrych ar bob tafarndy gyda llygad dyn parchus yn edrych allan am orphwysfan ddyogel. Gwelais yn fuan fy mod yn un lled anhawdd ei foddloni, ac er mwyn tynu fy hunan o'r cast hwnw, penderfynais gymeryd y tafarndy cyntaf a ddeuai drachefn o'm blaen, neu yn hytrach y deuwn I o'i flaen ef. Ac felly fu. Tŷ bychan digon dèl oedd o; aethum i mewn, a gofynais i'r wraig lygadgroes oedd yn y bar os oedd yno letty i ddyn diarth. Gofynodd hithau i'w gŵr gwyneb-lawen, yntau a gyflwynodd y gofyniad yn ol, a hithau wedi edrych yn lled fanwl arnaf (yr wyf yn meddwl mai arnaf fi yr oedd hi yn edrych), a ddywedodd y byddai yn dda ganddynt fy ngwneud yn gysurus. Aethum i mewn, a Phero wrth fy ngwt, canys yr oedd o gyda fi y tro hwn hefyd. Ac er fod pob man yn edrych yn lân a gweddus o'm cwmpas eto nid oeddwn wrth fy modd—yr oedd yno rywbeth ar ol, beth bynag oedd hwnw. Yr oedd y bobl yn edrych yn ddigon llawen groesawus arnaf fi, ond am Pero, yr oedd o druan naill ai ar y ffordd neu yn y goleuni o hyd; ac nid oes genyf fi fawr o feddwl o'r bobl hyny sydd bob amser a'u dialedd ar greaduriaid direswm. Chwi a ellwch benderfynu mai cas fuasent wrthych chwithau oni buasai am eich rheswm, ac nid iddynt hwy yr ydych i ddiolch am hyny.