Tudalen:Cymru fu.djvu/431

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flaen; ac yr oedd yn aros eto Anerchiad gan y Bardd; a chanu hefo'r Tanuau yn yr hen ddefod o derfynu Nos Nadolig. Yn nghyntaf galwyd ar y Bardd, ac yntau wedi ymsythu a chorn-garthu addywedodd:— "Llyma Myfinau, trwy ras ein cadeiriawl gyfaill, yn meddu yr anrhydeddawl bleser o eich anerch. Gwnaf hyny mewn 70 o Englynion Unodl Union." Taflodd llawer un olwg hiraethus ar y bwrdd a'r swper. Ac yn wir pwy a garasai eistedd o flaen ei swper i wrando ar 70 o Englynion Anerchiadol. Ond yr oedd ein Cadeirydd am drefn,ac yr oedd yn rhaid i'n clustiau ninau fyned tan y driniaeth chwerw; eithr o drugaredd fe ddaeth ymwared annisgwyliadwy. Dechreuodd y Bardd:—

Ddoniol ddynion gor-ddenawl—digrifawl
Dyna grefydd cas gan-ddiawl
Yn cadw'r nos Nadoligawl
Twy'r gwyll hyll, hyd awr gwawr gwawl.

Ar hyn bu mwstwr anghyffredin, pawb yn rhuthro o'i gadair tuag at Catrin Davies yr hon oedd mewn ffit, ac yn ei dau ddwbl weithiau a phryd arall yn ymsythu mor gam a phe buasai am daflu ei chorphyn fel dilledyn dros gefn ei chadair. "Dwr iddi!" ebai un; "gwynt iddi," ebai'r llall. Yn y cythryfwl, rhedodd Angharad ataf fi a rhoddodd ei phwys ar fy mraich; a dyna yr engraiff't gyntaf o'i serch tuag ataf; a neidiodd y marworyn serch a lechasai er's talwm yn fy mynwes I ati hithau yn fflam. Rywfodd neu gilydd anghofìais Catrin Davies yn Angharad Huws. Yr oedd ei genau yn llydan agored, a'i breichiau yn ymluchio yn ol a blaen. Yn mhen tua thri mynyd ymlonyddodd. "Oho! Oho! bobl anwyl," meddai hi, "wel dyna y brydyddiaeth ddigrifaf a glywodd fy nwy glust I erioed. Prydyddiaeth y gath," ebai hi tan chwerthin yn uchel; "wel yr oedd dy Englyn di, Twm, druan, yr un ffunud a phrydyddiaeth Twm y gath acw pan rodd o ei droed yn yr uwd poeth. Paid a deud gair arall, Twm anwyl, onide mi lladdi fi yn farw gorn." A dechreuodd pawb chwerthin yn galonog am ben Catrin Davies ac am ben y farddoniaeth. Pawb ond Shibbols; edrychai ef, a'i bapur yn ei law, cyn sobred â sant, a thybiai fod rhyw deilyngdod uchel yn ei waith pan y cynyrchai y fath effeithiau. Daliai yr hen chwaer i chwerthin a gwaeddi, "Paid Twm anwyl!" ac yn nghanol yr annhrefn, cododd y Cadeirydd i fynu a dy wedodd er mor dda fuasai ganddo sefyll at ei gynllun, a thrwy hyny glywed holl waith y Bardd Thomas Shibbols Roberts, fel tae; eto yn ngwyneb