Tudalen:Cymru fu.djvu/447

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pob peth yno fel y darfu iddo ef eu gadael. Ar ol eu trefnu, meddyliodd mai y peth goreu a allasai wneud yn awr oedd hwylio am ei wely, ac felly y gwnaeth. Cysgodd yn hynod o drwm, ond rywdro gefn trymydd y nos, dyma rywbeth yn d'od ato, ac a dillad llaith yn gafael ynddo. Ceisiodd ymryddhau o'r afael; ond ofer oedd ei waith, oblegyd po mwyaf y treiai, tynaf yn y byd y dirwasgai ei breichiau gwlybion am dano. O'r diwedd, dyma ryw sisial wrth ei glust, "Cofia di fod brydlon fory." "Aros," ebai Ifan Morgan, aros gael i mi oleu canwyll, mi godaf mewn mynyd," ond cyn iddo ddarfod dweyd hyn, nid oedd yno ddim ond cais lle bu y neb oedd yn siarad ag ef. Methodd yn glir a chysgu ddim un mynydyn wed'yn, a chodi a wnaeth i edrych dros ei drysorau, oblegyd yr oedd wedi cael aur ac arian, gemau a pherlau, cadwyni a thlysau beth aneirif! Pan oedd yr haul yn diog hepian draw yn nhir y dwyrain, yr oedd Ifan wedi cychwyn tua glan y môr; yr oedd arno dipyn o arswyd er hyny, a safai'n syn, yn awr ac eilwaith, gan adfyfyrio dros yr hyn a gymerth le: ofnai weithiau mai dyma'r tro diweddaf iddo byth gael golwg ar "y tŷ gwyn a'r tô gwellt". yn yr hwn y ganed ac y maged ef. Waith arall, codai ei galon, a gwelai fyd o hawddfyd o'i flaen. Pan yn nghanol yr adfyfyrion hyn, clywai yn ei ymyl sŵn rhai o'i hen gydnabod, y pysgotwyr, yn tynu eu rhwyd i'r lan. Rhegai y rheiny'n echrydus am na chawsant gymaint ag un pysg odyn: a chlywai un yn dweyd fod rhyw hen globen o For-forwyn wedi agor eu rhwydi, ac achub y pysgod braf oedd ynddynt, ac felly rhoddi eu rhyddid i'r cwbl.

Ciliodd ef oddiwrth y feisdon, ac unionodd am yr ogof: a phan yn safn hono, pwy a'i cyfarfu ond yr eneth a welsai yn "Ogof Deio" yn trin ei gwallt. Yr oedd erbyn hyn wedi cyfnewid yn fawr. Gwisgai fel boneddiges, ac yn un llaw yr oedd ganddi goron o aur pur, ac yn y llall gap o wneuthuriad rhyfedd. Dywedodd wrtho, A ddeuaist ti Ifan Morgan ?--yr wyf am dd'od i fyw am dro yn mysg dynion y tir: cadw hwn," ebai, gan estyn iddo'r cap; chadwaf finau hon," ebai, gan roddi y goron aur am ei phen, —"merch i frenin ydwyf.". Synai Ifan, druan, oblegyd yr oedd hi wedi cyfnewid yn fawr iawn. Pan welodd ef hi gyntaf yn yr ogof, nid oedd ond rhyw lafnes dan oed, ond yn awr yr oedd yn ddynes brydferth wedi llwyr dyfu. Er hyny, yr oedd yn amlwg mai yr un ydoedd drwy'r cwbl. Aethant ymaith pan oedd hi eto ond rhwng dau oleu, ac nis gwyddai Ifan Morgan pa beth i ddweyd.