Tudalen:Cymru fu.djvu/466

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un noson wed'yn. Yn wir yr oedd y cwbl yn hollol o'r un feddwl a theimladau, ond fod rhai o honynt yn fwy tafodog, ac yn haws ganddynt ddweyd yr hyn oedd ar eu calon na'r lleill. Ar ol i'w meistr godi aed ato, a dywedwyd wrtho nad oedd dim posibl byw yno,—eu bod ganwaith wedi clywed son am y twrw a'r trwst a gedwid gan Rywbeth yn y plas, ond na choeliasant neb tan y noson hono. Na chymerasant yr holl fyd am geisio byw yno. Crefodd yntau arnynt aros am un noson wed'yn. Fod y wraig yn sâl iawn wedi dychryn, ond meddai, hwyrach y daw pethau yn well. Ar ol ystyried am dipyn a siarad a'u gilydd, ac ymresymu'r y naill hefo'r llall, gaddawasant aros am y noson nesaf, ac yna'r aed oll at eu gorchwylion, naill at y peth yma a'r llall at y peth arall. Yr oedd y diwrnod hwnw yn myned heibio yn rhy gyflym o'r haner, a chas beth pob un o honynt oedd meddwl am y nos. Yn ystod y dydd ni welodd neb mo'u meistres, a choelid ei bod hi yn sâl iawn, ond pan aeth un o'r merched i'w hystafell nid oedd yno un hanes o honi. Methid a deall i ba le yr aethai !

Daeth eu meistr atynt i'r gegin ac ni soniai air am dani hi. Cafodd pawb ddechreunos digon dyddan, ac yr oedd pawb yn ceisio dangos ei fod ef yn ddi ofn pwy bynag oedd fel arall. Ond fel y gellid gweled galar y weddw yn ei dagrau crynion, er y bydd yn treio gwenu ar ryw ddigwyddiad trwstan diniwaid, felly hefyd yma, hawdd oedd gweled nad ellid galw eu llawenydd ond llygiedyn o haul rhwng dwy gawod o wlaw. Arosasant ar eu traed hyd nes oedd "un-ar-ddeg yn agos:" ac yna hwyliwyd am eu gwelyau. Cyn ymadael dywedodd y gŵr ieuanc fod ei wraig wedi dianc adref er y bore, ac buasai yn dda ganddo gael cwmni un o'r llanciau am y noson hono. Ond ni chai un fyned heb y llall, a'r ddau a aethant er mwyn bod hefo'u gilydd. Prin y cawsant fyned i'w hystafell nad oedd yno rywun yn curo wrth y drws; aeth y tri yno gan feddwl nad oedd yno ddim y pryd hwnw ond y merched yn d'od i'w dychryn; agorwyd y drws ond nid oedd yno neb. Cauwyd ef wed'yn yn ddyogel. Yn fuan dyma dri chnoc trwm ar y ddôr drachefn. Ond ni wnaethant ond neidio i'w gwely oddieithr y meistr ieuanc, yr hwn ei hun yn awr a aeth at y drws ac agorodd ef yn llydan, ac fe aeth allan i ben y grisiau a'r ganwyll yn ei law. Pan yno, clywai, dybygai, rywbeth yn llithro ar hyd y canllaw yn drwm, gan sŵnio yn bur debyg fel ag y bydd eira'n tyrfu wrth lithro'n araf hyd y to pan fo hi yn dadmer.