Tudalen:Cymru fu.djvu/467

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar hyn clywai waedd ddychrynllyd yn ei ystafell ei hun, a pha beth oedd yno, meddai'r llanciau ar ol hyn, ond dynes heb un pen ganddi yn sefyll wrth y ffenestr. Yr oedd hwnw, sef y pen, yn cael ei droi o gwmpas ei ben ei hun gan ddyn mawr a safai wrth draed y gwely: yr oedd yn gafael yn mlaen y gwallt! Aeth y meistr atynt a'r ganwyll yn ei law; ond pan yn d'od oddiwrth ben y grisiau, clywai rywun yn cerdded o'r tu ol iddo. Troes i edrych, ond ni welai ddim. Pan gyrhaeddodd yr ystafell o'r hon y daethai allan, yr oedd hono'n llawn o ryw darth tew llinynog, ac o'r braidd y cyneuai'r ganwyll ynddo. Yr oedd y llanciau, druain, yn ceisio ymguddio o dan dillad y gwely, ac yn wylo'n dorcalonus. Safodd yntau yn y tawch yn ddiysgog, a dechreuodd groesi ei hun a dywedyd ei Gredo a'i Bader. Pan ddaeth at enw'r IESU yn y Credo, cliriodd pob peth ar darawiad amrant, a goleuodd y ganwyll fel o'r blaen. Meddyliodd yn awr fod pob peth drosodd, ond nid cynt nag y diffoddodd y ganwyll nad oedd y tŷ drwyddo draw yn ferw cynddyrus drachefn o ben i ben. Ysgydwid y gwelyau: ysgytid y llofftydd, cauai ac agorau y drysau, a chlywid ambell dro sŵn cadwynau yn singl-sanglo yn eu gilydd. Felly ar ol hir oddef, daeth yn blygain, ac ymadawodd pob peth a aflonyddai, a chaed y tŷ yn glir a thawel. Pan wawriodd bore dranoeth, cododd y llanciau, ac ni welwyd yr un o honynt yno am fynyd yn hwy nag y medrasant agor y drws a myned allan. Y merched, hwythau, ar ol cael noson flin aflonydd, a ddechreuasant hel eu dillad yn nghyd cyn gynted ag y daethant dros yr erchwyn, ac nid oedd yno neb yn y plas ond y meistr yn unig yn mhen ychydig ar ol iddi ddyddio. Cododd yntau, ac ar ol aros tipyn yno i edrych o'i gwmpas ac i ryfeddu pa beth a allai fod yr achos o'r cynhwrf dychrynllyd, cychwynodd tuag adref ar ol cloi'r drysau. Pan ar y ffordd, cyfarfyddodd â Meddyg ieuanc, yr hwn a adwaenai er pan oeddynt eu deuoedd yn blant. Gofynodd hwnw iddo, gan wenu, pa fodd yr oedd y pethau yn troi allan y plas? a dywedodd yntau wrtho'r holl helynt. Ymadawsant y pryd hwnw heb ddim byd yn neillduol rhyngddynt heblaw fod y Meddyg yn gwrando'n astud ar bob peth a ddywedodd wrtho.

Aeth adref a chafas ei wraig yn drymglaf, a'i theulu mewn syndod dirfawr wrth glywed eu hanes o'r pethau a welsent ac a glywsent yn y plas. Cyn y nos daeth y Meddyg yno i chwilio am y gŵr ieuanc, ac i ddymuno