Tudalen:Cymru fu.djvu/484

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anferth dwr ger cwr y cwm !
Aruthrol fan i orthrwn.

Er's cwrs o flynyddoedd yn ol, pan oeddid yn aredig gerllaw pen isaf Llyn Cwellyn; (Tarddyni yr hen feirdd) caed cist—faen. Agorwyd yr unrhyw, a chaed ynddi olosg a thipyn o esgyrn braenllyd. Nid oedd ynddo ddim arwydd fod yno ddim Garn wedi bod. Gelwid y fan bob amser "Gweirglodd bedd y mab;" ond nid oedd yno na thy na thwlc yn agos i'r fan, ac nid oes yno, ychwaith, argoel i'r un gael ei chwalu. Nid ydyw'r lle yn mhell o'r Caeau Gwynion, a gwyr pobl y nant yn weddol dda am Fedd y Mab. Barna rhai mai yr un chwedl hanesyddol, wedi ei thrawsgyfleu, ydyw ag eiddo Owain Finddu; ac mai'r un ydyw Cidwm Nant Tal-y-llyn ag Eurnach Gawr Dinas Ffaraon. Ac os gwir, mai tri mab oedd gan Elen, nid oes dim tebygolrwydd i'r ddau ddigwyddiad gymeryd lle. Gwneir hyn yn fynych ddigon â chwedlau hanesyddol. Ceir crynhodeb cymhwysiadol i holl chwedlau Cymru oddeutu godre y Wyddfa, ac yn wir, y mae'n dra thebyg i amryw ddigwydd yn y cyrchle nodedig yma, oblegyd yr Eryri oedd dinas noddfa ein hynafiaid bob amser yn y dydd blin.

13.—Croesor. Y mae'r cwm hwn yn Mlaenau Nanmor, ac y mae "ffynon Elen" yno, yn bwrlymu grisial-ddwr gloywber. Pan ar ei hymdaith naill ai o Domen y Mur, tuag adref, neu ynte pan yn myned yno, y goddiweddwyd hi â'r newydd annedwydd o farwolaeth ei mab. Gwaeddodd yn wylofus "Croesawr i mi," a thyna paham y gelwir y cwm cul cornelawg hwn ar yr enw yna.

14.—Llech yr Efengyl.—Heb fod yn neppell o Blas Gwynant y mae'r fan hon; ac un o fynachod Beddgelert a wnaeth y weithred. Dywed eraill mai'r un ydyw a "Chareg y Dewin," rhwng Dinas Emrys a'r pentref: ond hwyrach y bu rhaid gwneud rhywbeth cyffelyb yn y ddau le.

DYN YN PRIODI UN O'R TYLWYTH TEG.

Yr oedd mab Drws Coed un diwrnod niwliog yn bugeilio ar ochr y mynydd dipyn yn is na Chwm Marchnad: a phan yn croesi gwaen frwynog canfyddai yn nghysgod twmpath fenyw fach brydferth odiaeth. Yr oedd ei gwallt crych— felyn yn gudynau modrwyog, a'i llygaid yn gyfliw y lâs— wybr oleu; ei thalcen

gyn wyned a'r donog luwchfa
Neu eiry un—nos ar lechweddi'r Wyddfa."