Tudalen:Cymru fu.djvu/487

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyfryw, hyd ag y medrais i gael allan, yr ydys yn gosod y digwyddion i lawr. Sonia W. Williams, Llandegai, yn ei "Lyfr ar yr Eryri," mai yn yr Ystrad, gerllaw Bettws Garmon, y cymerth hyn le, a dilynir ef yn ei haeriad gan ysgrifenydd yn yr Herald Cymraeg am Rhagfyr, 1855. Y mae un arall yn Taliesin, yr 2il ran, yn yr Erthygl ar "Chwedlau a thraddodiadau plwyf Llanfachraith," yn ei dwyn i Feirion. Rhiwfelen (neu Riw Elen fel yr awgryma yr ysgrifenydd yno) ydyw'r lle y dywedir i hyn ddamweinio yn y wlad hono.

ELFOD Y BUGAIL

PAN oedd Elfod yn rhyw ddeuddeg neu dair ar ddeg oed, ac yn blino edrych ar ol praidd ei dad, ymgiliodd i lwyn o frysgyll, lle bu am ddeuddydd a dwy noswaith heb archwaethu tamaid. O'r diwedd ymddangosodd iddo ddau ddynyn rhithiawg, cwta droedfedd a haner o daldra. Dywedodd un o honynt wrtho yn hynaws ac addfwyn, Tyred hefo ni, a thi a gei bob peth a ddymuna dy galon." "Deuaf," ebe Elfod, "a da gan fy nghalon ydyw dyfod" yna canlynodd ar eu hol nes y cyrhaeddasant ddôl deg, ac yno suddasant a threiddiasant i grombil daear, nes o'r diwedd iddynt dd'od i wlad wastadlyfn hyfryd, lle'r oedd afonydd tryloywon yn troelli trwy ddoldir meilliondwf—lle'r oedd meusydd cnydiog, a choed— lanau blodeuog yn cynyrchu pob melusber ffrwyth: ond nid oedd yn oleu; lled dywyll oedd yr awyrgylch, os gweddus galw nenfwd o'r fath ar y fath enw. Nid oedd y trigolion yn amgen na chorachod; ond yr oeddynt yn lân odiaeth: penfelyn pob un o honynt, a'u cnawd fel trochion llyn.

Ond, er hyny, yr oeddynt yn ddewr eu gwala, ac yn marchogaeth ceffylau hyweddfalch cyflym-garn, tua'r un faint ac ysgyfarnogod. Eu bwyd oedd pob rhyw fath o afalau ac aeron, yn nghyda llaeth a gwreiddiau. Ni chlywid dim twrf o'r naill ben i'r llall iddi, ac ni chlybüid na llw na rhêg o ben neb, ac nis gallent feddwl goddef twyll na chelwydd yn eu cyffiniau.

Bu Elfod am lawer o flynyddoedd yn y byd isod, a mawr oedd ei barch a'i urddas yno. Ond er mor ddedwydd ei le, deuai awydd weithiau am fyned yn mysg eraill i'r byd uchod, oblegyd yr oeddynt yn medru myned a dyfod pan fynent, a dywedai y byddai ysgelerder gweithredoedd y byd hwn yn eu blino yn ddidrefn. Yr oedd aur ac arian mor luosog yno fel yr oedd hyd yn oed teganau chware