Tudalen:Cymru fu.djvu/492

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gosod y crochan yn y pantri a'i wyneb yn isaf, a'r ceiliog dano. "Yn awr," ebe Robin wrth yr holl deulu ymgynulledig, "rhaid i chwi oll fyned i'r un pantri o un i un, a rhwbio'r crochan yn dda â'ch dwylaw, a dychwelyd yma ar ol gorphen; ac os oes neb ohonoch yn euog o'r trosedd, bydd y ceiliog yn sicr o ganu wrth i hwnw rwbio ei ddwylaw yn y crochan. Y morwynion yn myned o un i un i'r pantri, lle yr oedd canwyll yn oleu, ac yna yn dychwelyd: ac yna'r gweision yr un modd. Ar ol gorphen y seremoni hon, Yna," ebe Robin, "dangoswch eich dwylaw i gyd ar unwaith." Pawb yn eu dangos; dwylaw pawb yn barddu hyd yr arddyrnau, ond yn unig dwylaw'r bwtler; dwylaw hwnw yn berffaith lân; yr oedd hwnw wedi ofni cyffwrdd â'r crochan. Cafwyd wrth hyn mai efe oedd y lleidr; cyffesodd ei fai ac adferodd y cwpan, a chospwyd y gwalch yn ol ei haeddiant.

PENNOD CYNDDELW

Gefail-gŵn

PEIRIANT rhyfedd oedd mewn bri a gwasanaeth yn yr Oesoedd Tywyll yw "Gefail-gŵn." Hen offeryn pwysig ac anhebgorol i "Gymru Fu" oedd hwn. Math o binsiwr pedwar aelod ydoedd, o hen dderwen gadarn, at ymaflyd yn ngàrau ci, neu yn ei wàr, a'i lusgo allan o'r Eglwys, os digwyddai iddo ymladd ag un o'i frodyr, neu ymddwyn yn anweddaidd yn amser y gwasanaeth. Mae amryw o'r gefeiliau henafol hyn i'w gweled hyd heddyw yn crogi ar barwydydd hen eglwysi plwyfol Mon ac Arfon. Gwelais un ohonynt yn Eglwys Llanelian, yn Mon, yn ddiweddar. Yr oedd y man gafaelyd ar ddull safn ci, a hoelion yn lle danedd iddo. Gwasgai yn anoddefol. Wrth ei agor, crebychai y pedwar aelod fel Jack y Jumper, fel y gellid ymaflyd mewn ci a fyddai yn ymyl y gweinyddwr; ond wrth wasgu, ymestynai yn sydyn, nes y byddai tua hyd pigfforch rhwng y ci a'i boenydiwr-felly nid oedd modd iddo gnoi mewn hunan-amddiffyniad. Yr oedd swyddog pwrpasol yn yr hen Lanau i ddefnyddio'r Efail-gŵn, a man pwrpasol iddo eistedd i wylio ysgogiadau y cwnach.