mhob parth arall o'r wlad, mae'r ynys hon, oherwydd braster y tir a helaethrwydd y cynyrch, yn abl i ddiwallu angen holl Gymru." Nid oedd Dyffryn Clwyd, Dyffryn Wysg, a Bro Morganwg, dan driniaeth y pryd hwnw mae yn debyg, onide nis gallasai Môn ragori cymaint arnynt.
Rhys Grythor.
AT yr hyn a ddywedwyd eisoes am Rhys Grythor yn Cymru Fu, gellir nodi rhai mân—gofion yn mhellach. Ymddengys, wrth englynion Sion Tudur, i Rhys fyw i hen oedran, a'i fod mor ffol pan yn hen a phan ydoedd yn ieuanc. Yr oedd Rhys yn Eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1525, a graddiwyd ef yn ddysgybl dysgyblaidd Cerdd Grwth. Gwelir ei enw ef hefyd yn yr ail Eisteddfod a gynaliwyd yno yn 1567; ac nid oedd tros ddeugain mlynedd o ymarferiad wedi codi ei radd un gronyn yn uwch nag o'r blaen. Treuliodd ei oes i ofera a chrasdafodi, eto yr oedd Sion Tudur yn dywedyd, er garwed oedd ei dafod,—
"Mwyn yw ei Grwth, myn y grog!"
Dyma chwedl am ei wrhydri. Yr oedd pawb yn adnabod Rhys; ond achwynai ei wraig nad oedd neb yn ei hadnabod hi. Penderfynodd Rhys o'r diwedd, er mwyn cael taw a llonyddwch, ddwyn ei wraig i sylw hefyd. Ar ddydd gwyl ffair yn Ninbych, cyfeiriodd ei sylw at grydd oedd yn gwerthu esgidiau, a dangosodd iddi bâr neillduol oedd yn crogi ar hoelen, a dywedodd, "Yr wyf wedi prynu yr esgidiau acw i ti; dos i'w ceisio." Aeth y wraig annichellgar a chymerodd yr esgidiau, gan dybied fod Rhys wedi talu am danynt; ar hyny, dyna wawch fawr yn codi fod lladrones yn dwyn pâr o esgidiau, a'r holl ffair yn cynhyrfu i'w dal a'i chosbi. Pwy yw hi? oedd y cri cyffredinol. "Gwraig Rhys Grythor!" oedd yr atebiad parod o bob genau: a chyn nos yr oedd pawb yn adnabod gwraig Rhys Grythawr.
Yr oedd Rhys yn honi y medrai gyflawni castiau goruwchnaturiol mewn ffordd o gonsuriaeth; ac yn un o ffeiriau Dinbych, penderfynodd osod ei dalent mewn gweithrediad. Yr oedd Potiwr yn gwerthu llestri ar yr heol: aeth Rhys ato, a dywedodd wrtho y talai iddo werth yr holl lestri, os cymerai efe ei ffon a'u curo'n gandryll pan welai efe Rhys yn cau ei ddwrn yn ffenestr llofft y dafarn oedd uwch ei ben. Dyna ben, ebe y Potiwr; hyn a hyn yw eu gwerth. Aeth Rhys i'r llofft