Tudalen:Cymru fu.djvu/497

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hono at gyfeddach, a dechreuodd frolio ei ddawn i drin ysprydion, &c. Aeth y cwmni i'w ammheu, a gofyn beth a allai ef wneud mwy na dyn arall. Edrychwch ar y Potiwr yna," ebe Rhys, "pe bawn I ddim ond cau 'nwrn arno, elai o'i go' wyllt, a drylliau ei holl botiau yn yfflon." "Lol i gyd," ebe'r lleill. "Mi ddalia i chwi hyn," ebe Rhys. "Dyna ben," ebe hwythau. Yna aeth Rhys yn ddefosiynol iawn i ymgroesi, mwngialu iaith ddyeithr, a gwneud amrywiol ymdumiau, er mwyn tynu sylw, a dyna fo yn y ffenestr, yn cau ei ddwrn yn y modd mwyaf awdurdodol ar y Potiwr, nes oedd hwnw yn neidio ac yn gwylltio, yn chwilio am ei gwlbren, ac mewn mynydyn yn malurio ei holl lestri yn gregia uswydd màn deilchion.

HEN LANCIAU CLOGWYN Y GWIN.

GAN GLASYNYS.

WRTH sawdl y Wyddfa, yn nghwr uchaf Nant y Bettws heb fod yn neppell o lyn Cawellyn, y saif olion muriau hen dỹ Clogwyn y Gwin. Rhywle tua phedwar ugain mlyn- edd yn ol, yr oedd yno'n byw dri neu bedwar o frodyr ystig. Llabystiaid esgyrniog cyd-nerth, wedi cael eu magu yn ol dull iach yr hen amser, sef ar uwd a llymru, a bara ceirch a maidd, a chig defaid, a choch yr wden, &c.

Yn wir yr oedd rhywbeth hynod o gylch sodlau y Wyddfa tua'r adeg dan sylw. Yr oedd hen Lanciau'r Clogwyn yn ieuanc y pryd hyny, a Ffowc Tŷ du yn ei breim.. Cadi'r Cwm glas yn lodes lysti, a Margred Uch Ifan tua Phen-llyn, mor heinyf a phe buasai yn ddim ond un-ar-hugain oed, ac yntau Rhisiart William, delynor, ei gŵr, mor ffraeth a diddan a neb tafarnwr a fu'n cadw cil pentan mewn un oes.

Ni roisai llawer un yn awr gryn lawer am gael dim ond haner diwrnod yn nghwmni yr hen greaduriaid hynod hyn; pa un bynag ai'n hela hefo Modryb Margred, neu'n lladd mawn hefo Chadi'r Cwm glas, neu ynte'n taflu maen a throsol hefo Ffowc Tŷ-du, neu, os ceid cyfle, chwareu