Tudalen:Cymru fu.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r man y tybient y deuent o hyd iddynt; ac er eu syndod a'u gofid, nid oedd eu hanes yn un man. Dychwelasant yn siomedig at eu borefwyd, a gorfu iddynt ddadblygu yr hanes gerbron Syr Hywel. Gyrodd hyn y meistr yn gynddeiriog wyllt, ac i fathu rhegfeydd newyddion spon; nid oherwydd adwyo o honynt glawdd ei gymydog, eithr am y tybiai fod gan hyny ryw gysylltiad â diflaniad cyfrin yr anifeiliaid. Ar ol borefwyd, aed at yr un gorchwyl diflas drachefn, a chyda'r un aflwyddiant y dychwelasant yn mrig yr hwyr. Nid oedd undyn yn unlle wedi gweled na chlywed dim oddiwrthynt. Yr oedd Ifan, y llanc hynaf, yn darn gredu ddarfod i'r ddaear agor ei safn a'u llyncu yn eu crynswth. Tybient fod yn anmhosibl i neb am foment goleddu y bwriad o'u lladrata; haws na hyny fuasai credu iddynt fagu adenydd, a hedeg ymaith megys dreigiau. Athronwyr clasurol yr ardal a benderfynent fod lau dduw rhyfel, er dwyn brwydr yn mlaen âg un o'i gyd-dduwiau, wedi rhoddi ei fryd arnynt, a'u cipio i fynu i gludo adgyfnerthion i'w fyddin; tra y credai eraill iddynt wneud am danynt eu hunain yn rhy w fangre annghysbell. ond pwy glywodd erioed am un creadur - oddigerth dyn yn cyflawni hunan-laddiad? Aeth tri diwrnod heibio a'r dirgelwch yn aros yr un mor annhreiddiadwy; a Syr Hywel yn tybio mai oferedd 'chwilio mwyach am y colledigion, a roddodd y bechgyn at ryw orchwyl mwy buddiol ac enillfawr.

"Idwal," ebai yr amaethwr Harri ab Sion wrth ei was, "cymer y drol, a dos i'r Maes Meillion i 'nol y cilcyn gwair hwnw sydd wedi syrthio, onidê fe'i handwyir gan y dryghin." Idwai a ufuddhaodd, a ddaeth i'r Maes Meillion, a gafodd y gwair yn llanastr ar lawr, ac a brysurodd i'w godi i'r drol. Tra yn gwneud hyny, synwyd ef yn aruthr wrth weled yr holl swp yn symud ac yn ymrwyfo yn ol a blaen, fel pe buasai bywyd yn mhob gweiryn o hono. Dychrynodd yn ddirfawr, ac ymaith âg ef am ei hoedl, hyd oni chyfarfyddodd rhyw ddyn oerach ei ben nag ef, yr hwn ar ol ymholi yn nghylch ei frys mawr a'i perswadiodd i ddychwelyd, modd y chwilient i wir achos ei ddychryn. "Wedi iddynt chwalu y gwair, beth oedd yno ond y tri anifail colledig. Aethpwyd at y gorchwyl o'u rhyddhau yn ddiymaros; ac er iddynt dderbyn pob cymhorth i godi i fynu, o'r braidd y gallent sefyll ar eu traed, ar ol bod o honynt cyhyd mewu camystum. Ymddengys iddynt bori a phori ar y cilcyn hyd