Da gan ddiog yn ei wely
Glywed swn y droell yn nyddu;
Gwell gan inau, dyn a'm helpo,
Glywed swn y tannau'n tiwnio.
O, fy anwylyd! tyr'd ar gais
I wrando llais yr adar,
Lle mae'r llanerch deca' roed,
Tan gysgod llingoed Llangar.
Myn'd i'r ardd i dori pwysi,
Pasio'r lafant, pasio'r lili,
Pasio bwnsh o rosys cochion—
Tori bwnsh o ddeiliau poethion.
Pan brioda Sion a minau
Fe fydd cyrn ar benau'r gwyddau;
Ieir y mynydd yn blu gwynion,
Ceiliog twrci fydd y Person.
Gwyn ei fyd na lwfiai'r gyfraith
I'm briodi dau ar unwaith;
'Rwyf yn caru dau 'run enw,
Sion ŵr ifanc, Sion ŵr gweddw.
Gwyn ei fyd na fedrwn hedeg
Bryn a phant a goriwaered,
Mynwn wybod er eu gwaetha'
Lle mae'r gog yn cysgu'r gaua'.
Yn y coed y mae hi'n cysgu,
Yn yr eithin mae hi'n nythu;
Yn y llwyn tan ddail y bedw,
Dyna'r fan y bydd hi farw.
Tebyg yw y delyn dyner
I ferch wen a'i chnawd melusber;
Wrth ei theimlo mewn cyfrinach,
Fe ddaw hono'n fwynach, fwynach.
O, f'anwylyd, cyfod frwynen
Ac ymafael yn eu deupen;
Yn ei haner tor hi'n union,
Fel y toraist ti fy nghalon