Tudalen:Cymru fu.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diwylliog i roddi gorc'hudd teg dros y dybenion mwyaf dichellgar a drygionus, nid yw y Prydeiniaid ddini yn annghydnabyddus â rhinweddau lletygarwch a hynawsedd; y maent yn caru buddugoliaeth; ond nid' ydynt byth yn ymhyfrydu yn ngwaed eu cydgreaduriaid; am hyny, gyr ymaith dy anesmwythder, a chred, tra byddot yn ogof Modred y Derwydd, y byddi yn ddiogel rag niwed a cham.

"Yr oedd y Rhufeinydd yn synu yn ddirfawr wrth weled yr haelioni annisgwyliadwy hyn; eto nid oedd yn medru llai nag amau y gallai yr ymddygiad hynaws yma fod yn fath o ragrith i gelu dybenion mwy gelyniaethol; ond fel ag yr oedd ef yn barod, gyda gwroldeb Rhufeinaidd, i gyfarfod ei dyngedfen yn llawen a thysgog, pa un bynag ai gwenu ai gwgu a wnai arno, ni ddyoddefodd i hyny aflonyddu tawelwch ei feddwl, yr hyn oedd, yn y fath gyflwr ag yr oedd ef ynddo, yn anhebgorol i adferu ei iechyd. Yn y bore, canfu y Derwydd fod ei westai gwedi gwellau yn rhyfeddol, yrhwn, ypryd hyny, a hysbysodd iddo mai swyddog yn myddin Rbufeiniaid oedd ef, a darfod iddo ymadael â'i wersyll, pa un oedd o gwmpas taith diwrnod oddiwrth y lle hyny, gyda phump eraill o'r un fyddin. Eu hamcan oedd, efe a addefodd, ceisio rhyw ysbysiad o sefyllfa y gelyn; ond ei ddynion, fel ag yr oedd yn tybio, wedi eu cyflogi gan un o'i gyd- swyddogion, rhyngddo a pha un y dygwyddodd ychydig o anghydfod, a droisant eu barfau fel llwyr fradwyr yn ei erbyn ef, ac a'u gadawsant ef megis marw yn y fan lle ei cafwyd gan y Derwydd. Efe a ddiolchodd o'i galon i'r Derwydd am ei fawr garedigrwydd tuag ato ef, ac yn ol deisyfiad Modred efe a'i dilynodd ef allan o'r ogof, yn mha le yr oedd gwedi ymgynull rifedi mawr o bobl o wahanol ryw ac oedran, newydd ddadymchwelyd o fod y boregwaith hwnw yn gwneuthur offrwm."

YSTORI CILHWCH AC OLWEN

NEU HANES Y TWRCH TRWYTH.

(Hen Fabinogi Gymreig).

CILYDD ab Celyddon a roddodd ei fryd ar gael gwraig, a syrthiodd ei serch ar Goleuddydd ferch Anlawdd Wledig.