Tudalen:Cymru fu.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi eu priodas, gweddiodd y wlad ar iddynt gael etifedd, a chawsant fab trwy weddi y wlad. Ac o'r awr y beichiogodd Goleuddydd, hi a wallgofodd, a chrwydrai fanau annghyfanedd. Pan ddaeth awr ei thymp, dychwelodd ei phwyll. Ac yr oedd hi yn y mynydd, lle yr oedd meichiad yn gwylio cenfaint foch; a chan ofn y genfaint y cafodd hi ei thymp. Dygodd y meichiad y baban i'r palas, a galwyd ef ar yr enw Cilhwch, am ei eni mewn gwâl hwch. Er hyny, dullwedd foneddigaidd oedd ar y mab, a chefnder ydoedd i Arthur; a rhoddwyd ef at wraig arall i'w fagu.

Wedi hyny, clafychodd Goleuddydd hyd farw, a galwodd ei phriod at ei gorweddfa, a dywedodd wrtho, "Marw yr wyf fi o'r clefyd hwn, a gwraig arall a gymeri dithau, ac weithian, rhodd Duw ydyw gwragedd; eithr na lygra dy fab. Ac archaf it' na chymerot wraig hyd oni welot fieren a dau flodyn arni yn tyfu ar fy medd." Hyny a addunedodd Cifydd. Yna hi a erfyniodd arno adgyweirio ei bedd bob blwyddyn fel na thyfai dim arno. A bu y frenines farw. Anfonai y brenin bob bore was i edrych a dyfai y fieren ar y bedd; ac yn mhen saith mlynedd, annghofiodd ei adduned.

Un diwrnod, tra yr oedd y brenin yn hela, efe a farchogodd at y bedd, fel y gwelai ei hunan a oedd dim yn tyfu arno, modd y gallai wreica eilwaith, a chanfu fìeren yn tyfu ar y fan. Yna efe a ymgynghorodd pa le y caffai wraig. Ebai un o'r cynghor, "Mi wn am wraig weddus it', sef gwraig y brenin Doged." Penderfynwyd mynedi ymofyn am dani, a phan ddaethant at y castell, lladdasant y brenin ei gŵr, a dygasant hi a'i huni g ferch gyda hwynt yn ol at Cilydd, a chymerasant etifeddiaeth y brenin.

Un diwrnod, fel yr oedd y frenines yn rhodiana yn y ddinas, daeth at dŷ hen wrach heb ddant yn ei phen, wrth ba un y dywedodd, "Ha, wrach! a ddywedi di yr hyn a ofyuaf it'? Pa le y mae plant y gŵr a'm dygodd trwy drais?" Ebai y wrach, " Nid oes iddo blant." Ebai y frenines, "Gwae fì fy nyfod at ŵr diblant." Ebai y wrach, "Nid rhaid it' ofidio; canys y mae darogan y bydd iddo etifedd ohonot ti; ac y mae iddo eisoes un mab."

Dychwelodd y frenines adref yn llawen, a dywedodd wrth ei phriod, "Paham y celaist dy blant rhagof fi?" "Ni chelaf hyny yn hwy," ebai y brenin; ac a ni anfonwyd cenadau i gyrchu y mab i'r llys. A dywedodd ei lysfam