Tudalen:Cymru fu.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiod yn y corn, a llawenydd yn y neuadd, ac ni faidd neb sangu llys Arthur oni fydd frenin gwlad freintiedig, neu gelfyddydwr a ddyco gelf. Eithr rhoddir lluniaeth i dy gŵn ac i dy geffylau, a dygir i tithau olwythion chwaethus, a gwin melus, a dyddan gerddau. Bwyd dengwr a deugain a ddygir atat i'r yspytty, lle yr ymbortha estroniaid a gwestai, a'r sawl nad ydynt yn dyfod o fewn cylch llys Arthur. Ni bydd gwaeth i ti yno na chydag Arthur yn y llys. Menyw a gyniweiria dy wely, ac a'th ddifyra â cherddau dyddan; ac yforu, pan agorir y porth i'r lluaws dyeithriaid a ddaethant yma heddyw, i ti yr agorir ef gyntaf, a chaniateir i ti eistedd yn y lle a ddewisych yn neuadd Arthur o'r naill ben i'rllall o honi."Ebai y gŵr ieuanc, "Ni wnaf ddim o hyn. Os agori y porth, da y w; os na wnei, mi a ddygaf annghlod i'th arglwydd, a drygair i tithau. Ac mi a roddaf dair gwaedd wrth y porth hwn na bu erioed rai mor angeuol, yn cyrhaedd o ben Pengwaed yn Ngherny w hyd yn Dinsol yn y Gogledd, ac hyd i Esgeir Oerfel yn yr Iwerddon; a'r holl ferched beichiog yn y palas hwn, er clafychu, nid allant ymddwyn o'r dydd hwn allan." Ebai Glewlwyd Gafaelfawr, "Pa faint bynag o rwgnach a wnei, ar drawa deddfau llys Arthur, ni'th ollyngir i fewn hyd onid ymddiddanwyf âg ef yn gyntaf.

Pan ddaeth Glewlwyd i'r neuadd, gofynodd Arthur, "Pa newydd sydd o'r porth?" "Deuparth fy einioes i a'th oes dithau a aeth heibio. Mi a fum gynt yn Caer Se ac Asse, yn Sach a Salach, yn Lotor a Eotor. Mi a fum yn yr India Fawr a'r India Fechan. Yr oeddwn yn mrwydr Ynyr, pan ddygwyd y deuddeg gwystl o Lychlyn. Bum hefyd yn Ewrop, ac yn Affrig, ac yn Ynys Corsica; ac yn Caer Brythwch, a Brythach, a Ferthach; ac yr oeddwn i yn bresenol pan leddaist ti Clis ab Merin, a'r Mil Du ab Ducum, a phan oresgynaist wlad Groeg yn y Dwyrain. Ac mi a fum yn Caer Oeth ac Annoeth, ac yn Caer Nefenhyr, lle y gwelsom naw brenin; ac ni welais erioed ddyn cyn hardded a'r hwn sydd wrth y porth yr awrhon."A dywedodd Arthur, "Os tan gerdded y daethost, dychwel tan redeg; a'r sawl a welsant oleuni, ac a agorant eu llygaid, dangosant barch iddo, a gwasanaethant arno — rhai gydag yfgyrn goreurog, eraill gyda golwythion chwaethus, hyd oni byddo'r bwyd yn barod. Anweddus gadael cyfryw ddyn ag a ddywedi di allan yn y gwynt a'r gwlaw." "Myn llaw fy nghyfaill," ebai Cai, " pe gwnelit fy nghynghor i, ni thorit ddeddfau y llys er