Tudalen:Cymru fu.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i luoedd ynys Prydain, a'r tair ragynys, ac i'w hanrheithiau). Gwydawg ab Menestyr (yr hwn a laddodd Cai, a lladdodd Arthur yntau a'i frodyr er dial ar Cai). Garanwyn ab Cai, ac Amren ab Bedwyr, ac Ely Amyr, a Rhen Rhwyd Dyrys, a Rhun Rhudwern, ac Eli, a Trachmyr (prif helwyr Arthur). A Llwyddeu ab Celgoed, a Hunabwy ab Gwryon, a Gwyn Godyfron, a Gwen Dathar, wenniddawg, a Gweir Cadell ab Talaryant, a Gweir Gwrhyd Ennwir, a Gweir Paledyr Hir (ewythrod Arthur, frodyr i'w fam). Meibion Llwch Llawwynnyawg (o'r tu hwnt i'r môr terwyn). Llenlleawg Wyddel, ac Ardderchawg Prydain. Cas ab Seidi, Gwrfan Gwallt Afwyn, a Gwyllhenhin frenin Ffrainc, a Gwittart ab Oedd brenin Iwerddon, Garselyt Wyddel, Panawr Pen Bagad, a Fleudor ab Naf, Gwynhwyfar maer Cernyw a Dyfneint (y nawfed gŵr a oroesoedd frwydr Camlan). Celi a Cueli, a Gilla Coes Hydd (gallai ef neidio tri chan erw ar un naid. Efe oedd prif neidiwr yr Iwerddon). Sol, a gwadyn Ossol, a Gwadyn Odyeith (gallai Sol sefyll ar ei untroed am ddiwrnod cyfan. Os safai Gwadyn Ossol ar ben ymynydd uwchaf yn y byd, suddai yn gydwastad â'r dyffryndir tan ei draed. Gwreichionai tân o wadnau traed Gwadyn Odyeith, pan darawent yn erbyn rhyw sylwedd caled; efe a arloesai y ffordd o flaen Arthur). Hirerwn a Hirartrwm (pan fyddent hwy ar daith, tri chantref a ddarparent luniaeth iddynt, ac wedi ymloddesta hyd yr hwyr, hwy a gysgent; ac yna penau pryfaid a ysynt fel pe na chawsynt fwyd erioed cyn hyny. Ni weddillient y tew na'r tenau, yr oer na'r brwd, y melys na'r chwerw, y croew na'r hallt, y berwedig na'r diferw). Huarwas ab Aflawn (hwn a ofynodd am ei wala gan Arthur; a chafodd ei ddeisyfiad pan oedd y trydydd pla yn Nghernyw; ni cheid gwên ar ei wynebpryd ond wedi iddo ymddigoni). Gware Gwallt Euryn; dau genaw Gast Rhymni; Gwyddrud, a Gwyddneu Astrus. Sugyn ab Suguedydd (sugnai hwn fôr a thri chan llong arno hyd oni fyddai yn draeth sych. Bron lydan oedd iddo). Rhacymwri gwas Arthur (dangosid yr ysgubor a fynid iddo ef, os byddai cynyrch deg aradr ar ugain o'i mewn, efe a'i tarawai â ffust haiarn nes byddai'r trawstiau a'r tylathau mor fân a'r mân-geirch ar y llawr). Dygyflwng, ac Annoeth Feidawg. A Hir Eiddyl, a Hir Amreu (deuwas i Arthur oeddynt hwy). A Gwefyl ab Gwastad (y dydd y byddai efe drist, gollyngai ei wefus isaf i lawr at ei fogail; a'r wefus uwchaf fyddai fel penguwch ara ei ben). Uchtryd Faryf Draws (yr hwn a