Tudalen:Cymru fu.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymaint a thri o wŷr y byd hwn, yn dyfod allan o'r gaer. Gofynasant iddo, "O! ddyn, o ba le y daethost?" O'r castell a welwch acw." " Pwy biau y castell?" " wŷr, mor ddiwybod ydych! Nid oes neb yn y byd nas gŵyr i bwy perthyn y gaer hon. Castell Gwrnach Gawr ydyw." "Pa groesaw i ddyeithriaid a dariant ynddo?" "Ha! unben, Duw a'ch noddo; ni ddychwelodd gwestai erioed oddiyma yn fyw, ac ni ollyngir i mewn namyn a ddyco gelf."

Cyfeiriasant at y porth, a gofynodd Gwrhir Gwastawd ieithoedd, " A oes borthor?" " Oes: ac os nad yw dy dafod yn fud yn dy ben, paham yr ymholi?" "Agor y porth." "Nac agoraf." "Paham nad agori?" "Y mae y gyllell yn y bwyd, a'r ddiod yn y corn, a llawenydd yn neuadd Gwrnach Gawr; ac oni byddo gelfwr a ddyco gelf, nid agorir y porth iddo y nos heno." Ebai Cai, "Y porthor, y mae celf genyf fì." "Pa gelf sydd genyt?" "Y goreu yn y byd ydwyf am loewi cleddyfau." " Dy wedaf hyn wrth Gwrnach Gawr, ac a ddycaf ateb it'."

Aeth y porthor i'r llys, a gofynodd Gwrnach, "A oes genyt newydd o'r porth?" "Oes; y mae gwŷr wrth y ddor yn chwenych dyfod i mewn." "A ofynaist a oedd celf ganddynt?" "Gofynais, a ddywedodd un ei fod yn fedrus mewn gloewi cleddyfau." "Y mae angen arnom wrth hwnw. Er's encyd yr wyf yn chwilio am ŵr i loewi fy nghledd, ac nis cefais. Gollwng i mewn hwnw gan fod celf ganddo."

Dychwelodd y porthor, agorwyd y porth, ac aeth Cai i mewn ei hunan, ac a gyfarchodd well i Wrnach Gawr. Rhoddwyd cadair iddo gerbron y Cawr, yr hwn a ofynodd iddo: — Ha ŵr! ai gwir a ddywedir am danat y gelli di loewi cleddyfau?" "Gallaf hyny yn dda." ebai Cai. Dygwyd cleddyf Gwrnach iddo. Cymerth Cai ei galen hogi las odditan ei gesail, a gofynodd, "Pa un oreu genyt ai caboliad glas ynte gwyn?" "Gwna a fyddo da yn dy olwg, fel pe byddai yr offeryn yn eiddo i ti."Ac wedi i Cai loewi haner y llafn, cymerth ef yn ei law a gofynodd, "Ai da hyn yndyolwg?" "Rhoddwn haner fy nghyfoeth pe byddai y gweddill o hono fel hyn. Rhyfedd gennyf fod gŵr o'r fath ag wyt ti heb gydymaith." "Ha, fy arglwydd, y mae im' gydymaith, ond nid yw efe fedrus yn y gelf hon." "Pwy ydyw?" " Hysbysaf i'r porthor ei neillduolion ef fel oi hadnabyddo: — Blaen ei waewffon a ddaw yn rhydd oddiwrth y llafn, a dyn waed o'r gwynt, ac a ddisgyn eilwaith i'w le yn y llafn."