Tudalen:Cymru fu.djvu/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os gwyddost am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddi-wrth ei fam." "Daethym i'r lle hwn er's cryn ysbaid o amser bellach, a'r pryd hwnw yr oedd yma faen mawr, oddiar gopa yr bwn yr oeddwn yn pigo y sêr bob nos; ac yn awr nid ydy w dros ddyrnfedd o uwchder. Er y dydd hwnw ni chlywais am y gŵr y gofynwch amdano, oddieithr un tropan oeddwn cyn belled a Llyn Llyw yn ymofyn ymborth. Yno dodais fy ewinedd mewn eog, gan dŷbied y byddai'n ymborth i ni am hir amser; eithr yn lle hyny, tynwyd fi ganddo i'r dwfn, ac o'r braidd y gellais ddianc am hoedl genyf. Wedi hyny cesglais fy holl genedl er mwyn myned i'w difetha, ond efe a anfonodd genadau i wneud heddwch â mi, ac i ddeisyf arnaf dynu deg tryfer a deugain o'i gefn. Os na ŵyt efe am y gŵr yr holwch yn ei gylch, nis gŵyr neb. Pa fodd bynag, mi a'ch arweiniaf ato."

Wedi iddynt ddyfod ato, ebai yr Eryr, "Eog Llyn Llyw, daethym â chenadau Arthur atat i ymofyn os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddiwrth ei fam?" Ebai yr Eog, " Yr hyn a wn a ddywedaf. Myned i fyny yr afon yma yr ydwyf gyda phob llanw hyd oni ddeuaf at furiau Caerloew, ac ni welais gymaint o ddrygioni yn unman ag a welais yno; ac fel y credech yr hyn a ddywedwyf, deued dau o honoch. ar fy nwy ysgwydd, a dygaf hwynt i'r lle." Ac aeth Cai a Gwrhyr Gwastawt Ieithoedd ar ddwy ysgwydd yr Eog, a dygwyd hwynt ganddo at furiau castell Caerloew, yn naeardy pa un y clywsant gwynfan ac wylofain. Ebai Gwrhyr, "Pwy sydd yn cwynfan yn y maendy hwn?" "Nid yn ddiachos y cwyna'r sawl sydd yma. Mabon ab Modron sydd yn ngharchar, ac nid oedd carchariad Lludd Llaw Ereint a Greid ab Eri mor dost a'm carchariad i." " A oes genyt obaith yth rhyddheir er aur, arian, a chyfoeth, neu trwy ymladdau a brwydrau?" "Trwy ymladdau y'm rhyddheir, os rhyddheir fi o gwbl."

Dychwelasant at Arthur, a dywedasant wrtho pa le yr oedd Mabon ab Modron yn ngharchar. Gwysiodd Arthur holl ryfelwyr yr ynys, a daethant i Gaerloew. Aeth Cai a Bedwyr ar ysgwyddau y pysgodyn, tra yr ymosodai milwyr Arthur ar y castell oddiar y tir. A thorodd Cai trwy y mur i'r daeardy, a dygodd y carcharor ymaith ar ei gefn, tra yr ymfrwydrai y ddwyblaid rhyfelwyr â'u gilydd. Dychwelodd' Arthur adref, a Mabon gydag ef yn ŵr rhŷdd. Ebai Arthur, " Pa beth sydd iawnaf eto o'r rhyfeddolion hyn?" " lawnaf fyddai ceisio dau genaw Gast Rhymhi."