Tudalen:Cymru fu.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

74 TSTORI CILH-WCH AC OL-WEN. Ebai Arthur, "A ŵyr rhywun yn mha le y mae hi?" " Yn Aber Dau Gleddyf," ebai un. Yna aeth Arthur i dŷ Tringad, yn Aber Cleddyf, i ymofyn os clywsai y gŵr hwnw am dani. " Yn mha rith y mae hi?" " Yn rhith bleiddast, a chyda hi y mae dau genaw." " Hi a laddodd 'lawer o'm dâ i; mewn ogof islaw Aber Cleddyf y mae hi."

Aeth Arthur ar y môr yn ei long Prydwen i'w hela, a'r lleill aethant hyd y tir. Cylchynasant hi a'i dau genaw; a thrawsffurfìodd Duw hwynt, er mwyn Arthur, i'w ffurf eu hunain.

Yna lluoedd Arthur a ymwahanasant yn un a dau. Ac fel yr oedd Gwythyr ab Greidiawl, un diwrnod, yn teithio tros fynydd, efe a glywai lefain a gruddfan, a chyfeiriodd tuag ato. Wedi cyrhaedd i'r fan, dadweiniodd ei gleddyf, a thorodd âg ef dwmpath morgrug yn glos wrth y llawr, a thrwy hyny achubodd ef rhag ei losgi. A'r morgrug a ddywedasant wrtho, " Bendith nef fyddo arnat, a'r hyn ni ddichon dyn ei roddi it' ni a'i rhoddwn." Yna cyrchasant y naw llestraid hâd llin a archodd Yspaddaden Pencawr oddiar law Cilhwch yn llawn mesur heb ddim yn eisiau ohonynt, oddieithr un hedyn, a'r morgrugyn cloff a ddaeth â hwnw cyn y nos.

Pan oedd Cai a Bedwyr yn eistedd ar ben Pumlymon ar y gwynt mwyaf yn y byd, edrychasant o'u hamgylch a gwelent fŵg tua'r dehau yn mhell oddiwrthynt, nad oedd y gwynt yn ei drosi. Ebai Cai, " Myn llaw fy nghyfaill, wele acw dân rhyw yspeilydd." Prysurasant tuag ato, a daethant mor agos ag y gallent weled Dillus Farfawg yn deifio baedd coed. "Dacw y lleidr penaf a ddiangodd rhag Arthur erioed," ebai Bedwyr wrth Cai. "Adwaenost ti ef?" " Adwaen," ebe Cai, " Dillus Farfawg ydyw, ac nid oes gynllyfan yn y byd a ddeil Drudwyn, cenaw Greid ab Eri, namyn cynllyfan o farf y gŵr hwnw; a diles fydd oni thynir hi ac yntau yn fyw gyda gefail bren; canys os marw fydd efe, brau fydd ei farf." "Pa fodd y gwnawn?" ebai Bedwyr. " Gadawn iddo fwyta ei wala o'r cig, ac wedi hyny efe a gysga," ebai Cai. Yn y cyf- amser, gwnaethant efeilion prenau; a phan oedd Cai yn sicr fod Dillus yn cysgu, efe a wnaeth y pwll mwyaf yn y byd o dan ei draed ef; ac wedi rhoddi iddo ddyrnod trwm, efe a'i gwasgodd ef i'r pwll. A difarfwyd ef yn llwyr gyda'r gefeilion prenau, ac wedi hyn y lladdasant ef.

Oddiyno aethant eill dau i'r Gelli Wig, yn Nghernyw, a chyda hwynt y gynllyfan o farf Dillus, yr hwn a ddodes