Tudalen:Cymru fu.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ato gan erchi ei nawdd. Ac efe a ganiataodd iddynt ei nawdd, a rhoddasant hwythau iddo eu bendith. A gwŷr yr Iwerddon a ddaethant a bwyd i Arthur. Yna aeth Arthur mor bell ag Esgair Oerfel, yn Iwerddon, lle yr oedd y Baedd Trwyth a'i saith porchell. Gollyngwyd y cŵn yn rhyddion arno oddiar bob tu. Hyd hwyr y dydd hwnw y Gwyddelod a ymladdasant âg ef, ac er hyny pumed ran yr Iwerddon a anrheithiodd efe. Tranoeth. gwŷr Arthur ymladdasant âg ef, eithr gorchfygwyd hwythau, ac ni chawsant un fantais arno. Y trydydd dydd gwrthsafodd Arthur ef ei hunan, ac ymladdodd âg ef am naw diwrnod a naw nos, heb ladd cynifer ag un o'r perchyll. Gwŷr Arthur a ofynasant iddo pa beth ydoedd tarddiad y Baedd, ac efe a atebodd, "mai brenin ydoedd unwaith, ac i Dduw ei drawsffurfìo yn fochyn oherwydd ei bechodau."

Yna anfonodd Arthur Gwrhyr Gwastawt leithoedd i geisio ymddyddan âg ef. Ymrithiodd Gwrhyr yn aderyn, a disgynodd ar ben y ffau lle yr oedd ef a'i saith parchell, a gofynodd iddo, "Yn enw yr Hwn a'th wnaeth ar y ffurf hon, os gelli siarad, deisafaf ar un o honoch ddyfod i ymddyddan âg Arthur. Grugyn Gwrych Ereint (gwrych yr hwn oeddent fel gwifr arian; a pha un bynag ai trwy faes ai trwy goedwig yr elai, gellid ei olrhain wrth ddysgleirdeb ei wrych) a atebodd, " Mŷn yr hwn a'n trawsffurfiodd i'r wedd hon, ni ddenwn i ymddyddan âg Arthur. Digon o ddyoddef i ni ydyw ein trawsffurfio fel hyn heb i chwi ddyfod i ymladd a ni." Ebai Gwrhyr, " Dy- wedaf wrthych. Nid ymladd Arthur ond am y crib, yr ellyn, a'r gwellaif, sydd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth." Ebai Crugyn. "Oni chymer efe ei fywyd ef yn gyntaf, ni chaiff y tlysau gwerthfawr hyn. A bore fory, cychwynwn i wlad Arthur, a chymaint o ddrwg ag a allwn a wnawn ni yno. Felly cychwynasant trwy y môr i Gymru. Ac Arthur a'i luoedd, a'i feirch, a'i gŵn, a frysiasant yn y llong Prydwen, gan feddwl eu goddiweddyd; eithr glaniodd y Twrch Trwyth yn Porth Cleis, yn Nyfed; ac oddiyno aeth i Mynyw. Tranoeth hysbyswyd Arthur eu myned heibio, ac efe a'i hymgudiodd ac a'u goddiweddodd tra y lladdynt ychain Curwas Cwr y Fagyl, wedi dyfetha o honynt bob dyn ac anifail yn Aber Cleddyf, cyn dyfodiad Arthur.

Pan ddynesodd Arthur, aeth y Twrch Trwyth yn mlaen i Preselau, ac ymlidiasant hwynt hyd yno, ac anfones