Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/8

Gwirwyd y dudalen hon

Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd, Hysbysebu ac Arddangosfeydd

Nid yw Swyddfa Cymru yn cynnal ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, hysbysebu nac arddangosfeydd fel rhan o’i fusnes arferol. Os bydd angen i ni wneud hynny yn y dyfodol, byddwn yn cynnal ein gweithgareddau hysbysebu a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn ddwyieithog mewn ffordd sy’n trin y ddwy iaith yn gyfartal. Bydd holl ddeunydd cyhoeddusrwydd Swyddfa Cymru, megis cylchgronau, llyfrynnau, taflenni a hysbysebion yn y wasg, yn ddwyieithog. Bydd holl arddangosfeydd, cynadleddau a seminarau Swyddfa Cymru hefyd yn cynnwys stondinau arddangos dwyieithog.

Hysbysiadau Cyhoeddus

Bydd hysbysiadau cyhoeddus mewn papurau newydd a ddosbarthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru fel arfer yn ddwyieithog mewn cyhoeddiadau Saesneg, neu’n Gymraeg yn unig mewn cyhoeddiadau Cymraeg.

Hunaniaeth a Delwedd Gorfforaethol Swyddfa Cymru

Bydd Swyddfa Cymru yn arddel delwedd gorfforaethol hollol ddwyieithog. Bydd ein henw a’n gwybodaeth gysylltiedig yn ddwyieithog. Bydd hyn yn cynnwys arwyddion (yn cynnwys y rheini o amgylch ein hadeiladau), cloriau cyhoeddiadau a phethau eraill sy’n cael eu harddangos yn gyhoeddus.

Bydd papurau pennawd, slipiau cyfarch, taflenni ffacs, cardiau busnes staff, llofnodion e-bost, a phethau cyffelyb, i gyd yn ddwyieithog. Ym mhob achos, bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder ac amlygrwydd.

Gwasanaethau a Ddarperir ar ein Rhan gan Sefydliadau Eraill

Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wneir gan Swyddfa Cymru gyda thrydydd parti, megis asiantau, ymgynghorwyr neu gontractwyr, i