Tudalen:Daffr Owen.pdf/111

Gwirwyd y dudalen hon

yn heidio o ddynion ac anifeiliaid, tra bwriai llong ar ôl llong ychwaneg, ac eto ychwaneg atynt. Yr oedd y traeth eisoes wedi ei guddio ymron naill ai â phebyll neu â phentyrrau o nwyddau o bob math. Edrychai pob gŵr am y lle sychaf a diogelaf i osod ei eiddo i lawr arno cyn dechreu ohono ddringo i'r ucheldiroedd. A gwae i'r dyn nad oedd yn ddigon cryf neu yn ddigon dewr i ddal ei dwmpath ei hun yn y lle corsiog hwn.

Nid oedd neb yn chwannog i oedi yn y fath le, canys man anhyfryd iawn ydoedd ar y goreu, a mwy na hynny yr oedd y tymor yn prysur dynnu i ben, a buan y byddai Llyn Bennett a dyfroedd uchaf Yukon dan gloion ia, ac yna ofer ceisio symud hyd ddechreu'r haf dilynol.

Arweiniai dau lwybr o'r traeth i'r llyn cyntaf yn y mynyddoedd. Ymdroellai un yn ôl a blaen i gyrraedd y lle mewn modd cwmpasog. Hwn a elwid y Skagway, ac er ei fod yn un anodd, gellid defnyddio creaduriaid i gludo'r llwythi drosto. Ond, O'r fath dramwy! Yno y gwelid nid yn unig geffylau, mulod, ac asynod o dan eu harnais, ond yn yr un modd ychen, cŵn, a defaid hefyd, pob un o dan ei bwn, a'i wyneb tuagat yr hollt yn y mynydd fry.

Oherwydd y mawr gerdded ar y llwybr cleiog, buan yr aeth y ffordd yn un gors fawr, a rhaid oedd wrth nerth dau neu dri chreadur i wneuthur gwaith un pan ar lwybr tecach. A chan fod pob llwyth a gludid dros y trail yn ei wneuthur yn waeth i'r rhai oedd yn dilyn, a hefyd bod brys diwedd y tymor wedi meddiannu pawb, nid hir y bu cyn mynd yn rhedegfa gynddeiriog i gyrraedd y llyn am y cyntaf.

O dorri anifail ei goes, neu gwympo ohono o wendid teg i'r pyllau llaid, saethid ef yn y man lle'r oedd, a gadewid ei furgyn i wenwyno o'i gwmpas, yn hytrach na gwastraffu amser i'w gladdu. Llawer creadur y talesid amdano ddengwaith ei wir werth ar draeth Dyea a adawyd yn y modd hwn i'r cigfrain a'r bleiddiaid ar lethrau'r Skagway.